NDM8212 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg
NDM8212 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg
NDM8212 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Cymraeg
2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026.
2. Yn mynegi pryder am
y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyniad o dros 20,000 yn nifer
y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
3. Yn credu bod y
Gymraeg yn ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru.
4. Yn cydnabod yr
amrywiaeth mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r
Gymraeg o ddydd i ddydd.
Cymraeg
2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod
ffynonellau data eraill yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad
rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng
Cymraeg.
Yn croesawu:
(a) bod pob awdurdod
lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd
i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori
iaith;
(b) gwaith y Comisiwn
Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol; a
(c)
gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg
Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, ac eraill,
i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2023