Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 123 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

(30 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.28

(30 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

(0 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth - GOHIRIWYD TAN 14 MAWRTH

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon

(60 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.45

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: cymuned o gymunedau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

(30 munud)

8.

Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd – Cynnydd Cynllun 5 mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

 

(30 munud)

9.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: Cynnydd Blynyddol a Blaenoriaethau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.48

(5 munud)

10.

Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

NDM8208 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: 

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol: 

a) Adrannau 1-22

b) Atodlen 1

c) Adrannau 23-24

d) Atodlen 2

e) Adrannau 25-49

f) Teitl Hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.13

NDM8208 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: 

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol: 

a) Adrannau 1-22

b) Atodlen 1

c) Adrannau 23-24

d) Atodlen 2

e) Adrannau 25-49

f) Teitl Hir.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

11.

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023

NDM8209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2023.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2023.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

11

48

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15 munud)

12.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8207 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Awst 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 202217 Tachwedd 20226 Rhagfyr 2022 a 15 Chwefror 2023, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.  

Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, Memorandwm Rhif 2 a Rhif 3)
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, Memorandwm Rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 3 a 4)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

9

48

Derbyniwyd y cynnig.

 

13.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.41

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: