Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 131
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.26 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.14 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gareth
Davies (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o
adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.38 Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gareth Davies (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog
wedi'i wneud o adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar yr adran frys yn
Ysbyty Glan Clwyd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.56 Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Cerys O’Connell i gystadlu yng Ngemau
Trawsblaniadau’r Byd yn Perth, Awstralia, o 15 Ebrill. Gwnaeth
Mark Isherwood ddatganiad am - Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd (27 Mawrth i 2
Ebrill). Gwnaeth
Rhys ab Owen ddatganiad am - Y Dinesydd yn 50 mlwydd oed. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Pleidleisio drwy ddirprwy NDM8240 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Pleidleisio Drwy
Ddirprwy', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 22 Mawrth 2023. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.02 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8240 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Pleidleisio Drwy
Ddirprwy', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2023. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Oherwydd y cafodd y Cynnig ei gefnogi gan
ddau draean o’r Aelodau pleidleisio, cytunwyd ar y Cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i addasu Rheolau Sefydlog - Newidiadau amrywiol NDM8241 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol',
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 22 Mawrth 2023. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 yn Gymraeg, a Rheolau
Sefydlog 8, 9, 26, 26A, 26B, 26C yn y ddwy Iaith, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.11 NDM8241 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad
y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2023. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 yn Gymraeg, a Rheolau
Sefydlog 8, 9, 26, 26A, 26B, 26C yn y ddwy Iaith, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil twristiaeth Cymru NDM8232 Tom Giffard (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig i
greu Bil twristiaeth Cymru. 2. Yn nodi mai pwrpas
y Bil hwn fyddai: a) dirymu Gorchymyn
Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a
Diddymu'r Bwrdd) 2005; b) creu bwrdd
twristiaeth newydd i Gymru; c) trosglwyddo
swyddogaethau Croeso Cymru a grymoedd Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd
newydd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: i) annog pobl i ymweld
â Chymru a phobl sy'n byw yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu
gwyliau yno; ii) annog darparu a
gwella mwynderau a chyfleusterau twristiaeth yng Nghymru; iii) hyrwyddo
cyhoeddusrwydd; iv) darparu
gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a v)
sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad ei swyddogaethau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.12 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8232 Tom Giffard
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig i
greu Bil twristiaeth Cymru. 2. Yn nodi mai pwrpas
y Bil hwn fyddai: a) dirymu Gorchymyn
Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a
Diddymu'r Bwrdd) 2005; b) creu bwrdd
twristiaeth newydd i Gymru; c) trosglwyddo swyddogaethau
Croeso Cymru a grymoedd Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd newydd, gan
gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: i) annog pobl i ymweld
â Chymru a phobl sy'n byw yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu
gwyliau yno; ii) annog darparu a gwella
mwynderau a chyfleusterau twristiaeth yng Nghymru; iii) hyrwyddo
cyhoeddusrwydd; iv) darparu
gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a v)
sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad ei swyddogaethau. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol NDM8238 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi yr
amcangyfrifir bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth
gefn y gellir eu defnyddio. 2. Yn cydnabod y rôl
hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau
cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu. 3. Yn gresynu at y
ffaith bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth cyngor yng Nghymru ar
gyfer 2023-2024 yn 5.5 y cant. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) comisiynu adolygiad
annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru; b) gweithio gydag
awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu
defnyddio i gadw'r dreth cyngor mor isel â phosibl; c)
ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd
gormodol yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol a chael canlyniad
cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod y
dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n
anghymesur ar ardaloedd tlotach ac yn croesawu'r ymrwymiad drwy’r Cytundeb
Cydweithio i wneud y system yn decach ac yn fwy blaengar; Yn cydnabod rôl
hanfodol awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y
cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol yn 2022-2023 a 2023-24 a'r
heriau ariannu sy'n wynebu'r awdurdodau serch hynny. Yn nodi bod treth
cyngor band D ar gyfartaledd yng Nghymru £186 yn llai na'r cyfartaledd yn
Lloegr. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) parhau i ddatblygu
a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â
llywodraeth leol; b) parhau i gydnabod
pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau
cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Ym mhwynt 4, dileu
is-bwyntiau (b) ac (c). Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd cynnig: Yn cydnabod bod y
dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n
anghymesur ar ardaloedd tlotach y wlad. Yn croesawu'r ymrwymiad
drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud y system
dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8238 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi yr
amcangyfrifir bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth
gefn y gellir eu defnyddio. 2. Yn cydnabod y rôl
hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau
cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu. 3. Yn gresynu at y
ffaith bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth cyngor yng Nghymru ar
gyfer 2023-2024 yn 5.5 y cant. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) comisiynu adolygiad
annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru; b) gweithio gydag
awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu
defnyddio i gadw'r dreth cyngor mor isel â phosibl; c)
ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd
gormodol yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol a chael canlyniad
cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod y
dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n
anghymesur ar ardaloedd tlotach ac yn croesawu'r ymrwymiad drwy’r Cytundeb
Cydweithio i wneud y system yn decach ac yn fwy blaengar; Yn cydnabod rôl
hanfodol awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y
cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol yn 2022-2023 a 2023-24 a'r
heriau ariannu sy'n wynebu'r awdurdodau serch hynny. Yn nodi bod treth
cyngor band D ar gyfartaledd yng Nghymru £186 yn llai na'r cyfartaledd yn
Lloegr. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) parhau i ddatblygu
a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â
llywodraeth leol; b) parhau i gydnabod
pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau
cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Sian Gwenllian
(Arfon) Ym
mhwynt 4, dileu is-bwyntiau (b) ac (c). Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Sian Gwenllian
(Arfon) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd cynnig: Yn cydnabod bod y
dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n
anghymesur ar ardaloedd tlotach y wlad. Yn croesawu'r
ymrwymiad drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud
y system dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8238 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi yr
amcangyfrifir bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth
gefn y gellir eu defnyddio. 2. Yn cydnabod y rôl
hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau
cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu. 3. Yn gresynu at y ffaith bod
y cynnydd cyfartalog yn y dreth cyngor yng Nghymru ar gyfer 2023-2024 yn
5.5 y cant. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) comisiynu adolygiad
annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru; 5. Yn cydnabod bod y
dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n
anghymesur ar ardaloedd tlotach y wlad. 6. Yn croesawu'r
ymrwymiad drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud
y system dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.
Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofal lliniarol NDM8239 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Senedd
Cymru: 1. Yn nodi'r adroddiad
y Grwp Trawsbleidiol ar Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol ar brofiadau
gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19. 2. Yn cydnabod bod
gofal hosbis a gofal lliniarol wedi chwarae rôl hanfodol yn ystod pandemig
COVID-19, a bod y gofal hwnnw wedi mynd uwchlaw a thu hwnt o ran cefnogi
cleifion a'u teuluoedd. 3. Yn gresynu at y
ffaith bod rhai pobl wedi wynebu anawsterau yn ystod pandemig COVID-19, o ran
cael mynediad at ofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal, er
gwaethaf ymdrechion gorau'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal
cymdeithasol. 4. Yn cydnabod y
rhagwelir y bydd y galw am ofal lliniarol yn y gymuned yn dyblu erbyn 2040 a
bod y pandemig wedi rhoi cipolwg o sut y bydd y system iechyd a gofal
cymdeithasol yn ymdopi o dan bwysau tebyg yn y dyfodol agos. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda'r
sector gofal lliniarol i ddysgu o bandemig COVID-19, a sicrhau bod gofal
lliniarol wrth wraidd cynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol; b) blaenoriaethu
datblygu gallu gofal lliniarol yn y gymuned, uwchraddio arferion da
sy'n bodoli eisoes, a dal pawb sy'n agos i gleifion, gan gynnwys plant; c) sicrhau bod
penderfyniadau gweithlu a chyllid yn blaenoriaethu llesiant, staffio, addysg ac
anghenion hyfforddi'r rhai sy'n gweithio ar draws y sbectrwm llawn o ofal
lliniarol a diwedd oes. Cross
Party Group on Hospice and Palliative Care’s Inquiry: Experiences of palliative
and end of life care in the community during the COVID-19 pandemic (Saesneg yn
unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.36 NDM8239 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Senedd
Cymru: 1. Yn nodi'r adroddiad
y Grwp Trawsbleidiol ar Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol ar brofiadau
gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19. 2. Yn cydnabod bod
gofal hosbis a gofal lliniarol wedi chwarae rôl hanfodol yn ystod pandemig
COVID-19, a bod y gofal hwnnw wedi mynd uwchlaw a thu hwnt o ran cefnogi
cleifion a'u teuluoedd. 3. Yn gresynu at y
ffaith bod rhai pobl wedi wynebu anawsterau yn ystod pandemig COVID-19, o ran
cael mynediad at ofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal, er
gwaethaf ymdrechion gorau'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal
cymdeithasol. 4. Yn cydnabod y
rhagwelir y bydd y galw am ofal lliniarol yn y gymuned yn dyblu erbyn 2040 a
bod y pandemig wedi rhoi cipolwg o sut y bydd y system iechyd a gofal
cymdeithasol yn ymdopi o dan bwysau tebyg yn y dyfodol agos. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda'r
sector gofal lliniarol i ddysgu o bandemig COVID-19, a sicrhau bod gofal
lliniarol wrth wraidd cynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol; b) blaenoriaethu
datblygu gallu gofal lliniarol yn y gymuned, uwchraddio arferion da
sy'n bodoli eisoes, a dal pawb sy'n agos i gleifion, gan gynnwys plant; c) sicrhau bod
penderfyniadau gweithlu a chyllid yn blaenoriaethu llesiant, staffio, addysg ac
anghenion hyfforddi'r rhai sy'n gweithio ar draws y sbectrwm llawn o ofal
lliniarol a diwedd oes. Cross Party Group on Hospice and Palliative Care’s Inquiry:
Experiences of palliative and end of life care in the community during the
COVID-19 pandemic (Saesneg
yn unig) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.24 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8237 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Endometriosis
a'r cynllun iechyd menywod yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.29 NDM8237 Huw Irranca-Davies
(Ogwr) Endometriosis a'r
cynllun iechyd menywod yng Nghymru |