NDM8238 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol

NDM8238 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol

NDM8238 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi yr amcangyfrifir bod gan awdurdodau lleol £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.

2. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido sy'n eu hwynebu.

3. Yn gresynu at y ffaith bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth cyngor yng Nghymru ar gyfer 2023-2024 yn 5.5 y cant.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru;

b) gweithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth cyngor mor isel â phosibl;

c) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd gormodol yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol a chael canlyniad cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod y dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach ac yn croesawu'r ymrwymiad drwy’r Cytundeb Cydweithio i wneud y system yn decach ac yn fwy blaengar;

Yn cydnabod rôl hanfodol awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol yn 2022-2023 a 2023-24 a'r heriau ariannu sy'n wynebu'r awdurdodau serch hynny.

Yn nodi bod treth cyngor band D ar gyfartaledd yng Nghymru £186 yn llai na'r cyfartaledd yn Lloegr.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i ddatblygu a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol;

b) parhau i gydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus.

Cytundeb Cydweithio 2021

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau (b) ac (c).

Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn cydnabod bod y dreth gyngor yn un o'r mathau mwyaf annheg o drethu a'i bod yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd tlotach y wlad.

Yn croesawu'r ymrwymiad drwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i wneud y system dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.

Cytundeb Cydweithio 2021

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2023