NDM8239 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofal lliniarol
NDM8239 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofal lliniarol
NDM8239 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod Senedd
Cymru:
1. Yn nodi'r adroddiad
y Grwp Trawsbleidiol ar Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol ar brofiadau
gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19.
2. Yn cydnabod bod
gofal hosbis a gofal lliniarol wedi chwarae rôl hanfodol yn ystod pandemig
COVID-19, a bod y gofal hwnnw wedi mynd uwchlaw a thu hwnt o ran cefnogi
cleifion a'u teuluoedd.
3. Yn gresynu at y
ffaith bod rhai pobl wedi wynebu anawsterau yn ystod pandemig COVID-19, o ran
cael mynediad at ofal diwedd oes yn y cartref ac mewn cartrefi gofal, er
gwaethaf ymdrechion gorau'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal
cymdeithasol.
4. Yn cydnabod y
rhagwelir y bydd y galw am ofal lliniarol yn y gymuned yn dyblu erbyn 2040 a
bod y pandemig wedi rhoi cipolwg o sut y bydd y system iechyd a gofal
cymdeithasol yn ymdopi o dan bwysau tebyg yn y dyfodol agos.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'r
sector gofal lliniarol i ddysgu o bandemig COVID-19, a sicrhau bod gofal
lliniarol wrth wraidd cynlluniau ar gyfer pandemigau posibl yn y dyfodol;
b) blaenoriaethu
datblygu gallu gofal lliniarol yn y gymuned, uwchraddio arferion da
sy'n bodoli eisoes, a dal pawb sy'n agos i gleifion, gan gynnwys plant;
c) sicrhau bod
penderfyniadau gweithlu a chyllid yn blaenoriaethu llesiant, staffio, addysg ac
anghenion hyfforddi'r rhai sy'n gweithio ar draws y sbectrwm llawn o ofal
lliniarol a diwedd oes.
Cross
Party Group on Hospice and Palliative Care’s Inquiry: Experiences of palliative
and end of life care in the community during the COVID-19 pandemic (Saesneg yn
unig)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2023