NDM8232 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Twristiaeth Cymru

NDM8232 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Twristiaeth Cymru

NDM8232 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig i greu Bil twristiaeth Cymru.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:

a) dirymu Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005;

b) creu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru;

c) trosglwyddo swyddogaethau Croeso Cymru a grymoedd Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd newydd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

i) annog pobl i ymweld â Chymru a phobl sy'n byw yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu gwyliau yno;

ii) annog darparu a gwella mwynderau a chyfleusterau twristiaeth yng Nghymru;

iii) hyrwyddo cyhoeddusrwydd;

iv) darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a

v) sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad ei swyddogaethau.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2023