Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 107(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 30/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Cododd Alun Davies Bwynt
o Drefn yn ymwneud â chyfleoedd i Aelodau graffu ar Aelodau Dynodedig a
benodwyd o dan y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Cytunodd y Llywydd i ystyried y mater a godwyd ymhellach a nododd y byddai’r
Cytundeb Cydweithio yn destun gwaith craffu yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y
Prif Weinidog yr wythnos ganlynol. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.27 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.16 Gwnaeth
Jenny Rathbone ddatganiad am - Tŷ bwyta “The Clink” yng ngharchar Caerdydd
yn cau ar ôl 10 mlynedd. Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Ariannu’r celfyddydau a grwpiau cymunedol yng
Nghymru: Penblwydd 70 Hapus i ‘The Mousetrap’ (25 Tachwedd). Gwnaeth
Heledd Fychan ddatganiad am - Llongyfarch tîm pêl droed dynion Cymru a’r Wal
Goch am hyrwyddo Cymru i’r byd. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE NDM8149 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2022. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd
2022. Derbyniwyd
ymateb
Llywodraeth y DU i’r adroddiad ar 21 Tachwedd 2022. (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.22 NDM8149 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain
De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE
a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 10 Hydref 2022. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022. Derbyniwyd ymateb Llywodraeth y DU
i’r adroddiad ar 21 Tachwedd 2022. (Saesneg yn unig) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig NDM8152 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol ‘Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a
gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig’ a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 15 Awst 2022. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd
2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.19 NDM8152 Delyth Jewell (Dwyrain
De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn
chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig’ a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Awst 2022. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1302 – Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol NDM8146 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1302
Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi
yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a gasglodd 20,889 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.17 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8146 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng
Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a gasglodd 20,889 o
lofnodion. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru NDM8150 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1. Yn sefydlu
pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru 2. Yn cytuno mai cylch
gwaith y pwyllgor yw: a) nodi ble nad yw
ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a
chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19; b) cynnal ymchwiliad
i'r meysydd a nodwyd; 3. Yn cytuno y bydd y
pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn dadl yn y Cyfarfod
Llawn ar ei adroddiad terfynol. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.40 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8150 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1.
Yn sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru 2.
Yn cytuno mai cylch gwaith y pwyllgor yw: a)
nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb
Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19; b)
cynnal ymchwiliad i'r meysydd a nodwyd; 3.
Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn
dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol. Cyd-gyflwynwyr Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly,
gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach NDM8151 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi y bydd Dydd
Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022. 2. Yn cydnabod y
cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal economïau
lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi
busnesau bach yng Nghymru yn well. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.15 NDM8151 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022. 2.
Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal
economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi
busnesau bach yng Nghymru yn well. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.45 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8147 Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru) Rhwyd
ddiogelwch i blant: gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.49 NDM8147 Natasha Asghar
(Dwyrain De Cymru) Rhwyd
ddiogelwch i blant: gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein |