Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE

Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad byr ynghylch ariannu ar ôl i’r DU adael yr UE.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 1391KB) ar 10 Hydref 2022. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu hymatebion i adroddiad y Pwyllgor ar 21 Tachwedd 2022.

 

Mae dadl wedi’i threfnu yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Tachwedd 2022.

 

Cylch gorchwyl

Roedd y cylch gorchwyl i ystyried y canlynol:

  • Cynnydd o ran sefydlu a darparu cronfeydd cyfnewid ar gyfer cronfeydd strwythurol yr UE, gan gynnwys:
    • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU;
    • y Gronfa Adnewyddu Cymunedol; a’r
    • Gronfa Codi'r Gwastad.
  • Y modd y mae’r cyllid arfaethedig ar gyfer Cymru a’r cyllid a gafwyd yn sgil cyfranogiad parhaus y DU yn rhaglenni’r UE yn cymharu â’r cyllid a gafwyd tra’r oedd y DU yn aelod o’r UE.
  • Y mecanweithiau a’r strwythurau sy’n cael eu sefydlu i weinyddu’r cronfeydd hynny yng Nghymru, rolau’r rheini sy’n gysylltiedig – yn enwedig Llywodraethau Cymru a’r DU – a’r effaith ddilynol ar drefniadau atebolrwydd.
  • Swm y cyllid etifeddol y mae disgwyl i Gymru ei gael ar ôl i’r DU adael yr UE ac sy’n gysylltiedig â rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE.

 

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig rhwng 4 Mawrth 2022 a 1 Mai 2022. Gallwch weld yr ymatebion ar dudalen yr hymgynghoriad.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/03/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau