NDM8150 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru
NDM8150 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru
NDM8150 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu
pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru
2. Yn cytuno mai cylch
gwaith y pwyllgor yw:
a) nodi ble nad yw
ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a
chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19;
b) cynnal ymchwiliad
i'r meysydd a nodwyd;
3. Yn cytuno y bydd y
pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn dadl yn y Cyfarfod
Llawn ar ei adroddiad terfynol.
Cyd-gyflwynwyr
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2022