Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig

Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig

Inquiry5

 

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i gyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Bydd yn ystyried materion sy’n effeithio ar bobl mewn ardaloedd y nodir eu bod yn gymharol ddifreintiedig yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, gan gynnwys y materion a ganlyn:

 

  • Beth yw'r prif rwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig? Sut mae'r rhain yn croestorri â ffactorau eraill, gan gynnwys:
    • Oedran,
    • Rhyw a rhywedd,
    • Statws economaidd-gymdeithasol,
    • Daearyddiaeth,
    • Anabledd,
    • Ethnigrwydd?
  • Pa mor glir yw’r darlun sydd gennym o’r lefelau cyfranogiad presennol mewn ardaloedd difreintiedig? A yw'r data presennol yn galluogi ymyriadau polisi i fod yn effeithiol?
  • Sut y dylid defnyddio arian cyhoeddus i gynyddu cyfranogiad mewn ardaloedd difreintiedig?
  • Pa mor effeithiol yw’r ymyriadau presennol o ran cynyddu cyfranogiad mewn ardaloedd difreintiedig?
  • A yw’r pandemig wedi achosi unrhyw newidiadau parhaus i lefelau cyfranogiad mewn ardaloedd difreintiedig?
  • Pa mor effeithiol y mae gwahanol sectorau (er enghraifft, addysg ac iechyd) yn cydweithio i wella cyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig?
  • A oes enghreifftiau o arfer gorau, o fewn Cymru ac yn rhyngwladol, y dylid dysgu oddi wrthynt i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig?

 

Erthygl Ymchwil “Beth sy’n dod yn gyntaf, chwarae rygbi neu fwyta?”: mae anghydraddoldebau'n cynyddu o ran cymryd rhan mewn chwaraeon

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/02/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau