P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lorna Celia Brazell, ar ôl casglu 3,571 lofnodion ar-lein ac 17,318 lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 20,889  lofnodion wedi casglu.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mynyddoedd Cambria: awyr agored ddiddiwedd, bioamrywiaeth eithriadol, bryniau a dyffrynnoedd ysblennydd, 5,000 o flynyddoedd o dreftadaeth, megis yr iaith Gymraeg, ffermio a mwyngloddio. Mae’r ymdeimlad o ehangder a heddwch yn neilltuol.

Yn anffodus, ychydig o sylw a gaiff y dasg o warchod yr ucheldiroedd hyn. Caiff ffermydd eu prynu ar gyfer plannu coed conwydd neu ar gyfer adeiladu ffermydd gwynt mawr, a hynny er gwaethaf y diffyg seilwaith sydd yno.

Mae angen gwarchod rhanbarth mor brydferth A HEFYD sicrhau cyflogaeth yng nghefn gwlad yn y tymor hwy. Dylid dynodi Mynyddoedd Cambria fel yr ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf yng Nghanolbarth Cymru!

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae mawndiroedd y Mynyddoedd Cambria yn lliniaru newid hinsawdd drwy amsugno carbon sydd wedi’i greu gan bobl, ac maent yn lleihau llifogydd dŵr afon. Mae coetiroedd a ffeniau brodorol bioamrywiol yn meithrin planhigion, anifeiliaid ac adar gwerthfawr. Mae adar ysglyfaethus yn hedfan uwchben; mae gwiwerod coch, dyfrgwn a bele'r coed yn crwydro; mae gloÿnnod byw, gweision y neidr, buchod coch cwta a 15 math o chwilod y dom yn galw’r llecyn hwn yn gartref! Mae ffermydd gwasgaredig, carneddau, capeli ac adfeilion yn cofnodi bywydau a gwaith pobl yma ers yr Oes Efydd.

Byddai dynodi’r ardal hon yn ardal o harddwch naturiol eithriadol yn sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu, anghenion cymunedau lleol AC anghenion pobl o ran mwynhau mannau gwyrdd. Mae ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol sy’n bodoli eisoes – fel Gŵyr, Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – yn ffynnu ac ar yr un pryd yn hyrwyddo a chadw tirweddau Cymru ar gyfer pawb.

Mae angen i ni oedi ac ystyried yn ofalus: Mae gwleidyddion yn codi pryderon am gynlluniau ffermydd gwynt (mynewtown.co.uk). Bydd plannu coed ar raddfa fawr yn anrheithio cymunedau gwledig, meddai undeb ffermio (nation.cymru). Os caiff Mynyddoedd Cambria frand mawreddog fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, ac os caiff y mynyddoedd eu rheoli mewn modd cydlynol, bydd y rhanbarth yn sicr yn ffynnu!

 

 

 

A picture containing mountain, outdoor, grass, sky

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/01/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Senedd. Diolchodd i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig hwn ac am eu sylwadau diweddaraf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl a chaeodd y ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/10/2022.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2022