Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 42 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/01/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.40.

(90 munud)

3.

Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2022-2023

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.00.

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.17.

(5 munud)

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu dadl ar eitemau 6 a 7

Dechreuodd yr eitem am 17.16

NNDM7872 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7874 a NNDM7875 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Ionawr 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(45 munud)

Derbyniwyd cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5-7 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

5.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021

NDM7873 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

15

56

Derbyniwyd y cynnig.

6.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

NNDM7874 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7874 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

13

15

56

Derbyniwyd y cynnig.

7.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021

NNDM7875 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Rhagfyr 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM7875 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Rhagfyr 2021.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

12

15

56

Derbyniwyd y cynnig.

(0 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - Gohiriwyd tan 18 Ionawr

(15 munud)

9.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

NDM7876 - Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a gosodwyd dau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021 a 10 Rhagfyr 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. 

Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7876 - Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a gosodwyd dau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021 a 10 Rhagfyr 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. 

Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

12

56

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.12 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.17.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: