Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 35(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 24/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd
y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill
yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.27 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.22 Gofynnwyd
y 2 gwestiwn. |
|||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.30 Gwnaeth
Luke Fletcher ddatganiad ar Bantri Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Gwnaeth
James Evans ddatganiad ar Ffair Aeaf Frenhinol Cymru. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.33 cafodd y cyfarfod ei atal dros
dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil diogelwch cladin NDM7828 Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng
Nghymru. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy sicrhau
bod cladin diogel ar gael ar adeiladau. Cefnogwyr: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.44 NDM7828 Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng
Nghymru. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy sicrhau
bod cladin diogel ar gael ar adeiladau. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: Craffu ar y broses o roi’r ddeddf ar waith NDM7841 Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi: a)
Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd sef, Cyflawni ar gyfer
cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yma, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021; b)
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 5 Hydref 2021; c)
Ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig Awst
2021; d)
Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor,
dyddiedig 3 Medi 2021; e)
Ymateb y Llywydd i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 22 Medi 2021; f)
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef, Felly
beth sy’n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr
Archwilydd Cyffredinol, dyddiedig 8 Hydref 2021;
ac g)
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru,
sef Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020, dyddiedig 8 Hydref 2021. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.15 NDM7841 Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi: a)
Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd sef, Cyflawni ar gyfer
cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yma, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021; b)
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 5 Hydref 2021; c)
Ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig Awst
2021; d)
Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i Adroddiad y Pwyllgor,
dyddiedig 3 Medi 2021; e)
Ymateb y Llywydd i Adroddiad y Pwyllgor, dyddiedig 22 Medi 2021; f)
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef, Felly
beth sy’n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr
Archwilydd Cyffredinol, dyddiedig 8 Hydref 2021;
ac g)
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru,
sef Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020, dyddiedig 8 Hydref 2021. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Rheoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid NDM7840
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig
yn unig. 2.
Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
yng Nghymru. 3.
Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid
(Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i: a)
cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu
a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein,
erbyn 2023; b)
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail
dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu
hawdurdod lleol; c)
sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu
bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal. Ein
Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26, Llywodraeth Cymru Rheoliadau
Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru)
2021 Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Lesley Griffiths
(Wrecsam) Dileu
pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd: Yn
cydnabod gwaith allweddol arolygwyr lles anifeiliaid yr awdurdodau lleol o ran
cynnal safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cyflwyno rheoliadau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, fel
canolfannau achub ac ailgartrefu, gan gynnwys y rhai sy’n gweithredu ar-lein; b)
datblygu trefniadau er mwyn diogelu safonau gofynnol o ran hyfforddiant, staff
a’r amgylchedd er mwyn sicrhau lles anifeiliaid mewn sefydliadau lles
anifeiliaid; c)
gwella’r cymwysterau ar gyfer arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws
proffesiynol; d)
cefnogi awdurdodau lleol i atgyfnerthu eu cydnerthedd er mwyn helpu i reoli’r
dosbarthiad anghyson o sefydliadau lles anifeiliaid ar draws Cymru; e)
ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch sut y dylai unigolion sy’n ailgartrefu
anifeiliaid ddatgan eu gweithgareddau o dan drwydded oddi wrth eu hawdurdod
lleol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.00 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7840 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig
yn unig. 2.
Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
yng Nghymru. 3.
Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid
(Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i: a)
cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu
a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein,
erbyn 2023; b)
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail
dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu
hawdurdod lleol; c)
sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu
bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal. Ein
Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26, Llywodraeth Cymru Rheoliadau
Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru)
2021
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.48 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7839
Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Polisi
cyffuriau yng Nghymru a'r DU: dechrau sgwrs genedlaethol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.54 NDM7839 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Polisi cyffuriau yng
Nghymru a'r DU: dechrau sgwrs genedlaethol |