Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus
PAPA4
Mae gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru ddyletswydd, o dan Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i archwilio a pharatoi
adroddiad yn ystyried i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus perthnasol wedi
gweithredu yn unol â’r ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ wrth benderfynu ar y
camau i’w cymryd i gyflawni ‘amcanion llesiant’.
Ym mis Mai 2020,
cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei adroddiad
statudol cyntaf mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
2015, a hynny’n unol â’r gofyniad iddo fod ar gael 12 mis cyn unrhyw etholiad
yn ymwneud â’r Senedd.
Mae gofyniad
tebyg ar Gomisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol, a chyhoeddwyd ei adroddiad
cyntaf hithau ym mis Mai 2020.
Bu Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd yn arwain ar y gwaith o archwilio'r
adroddiadau hyn.
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymchwiliad helaeth, gan ymgysylltu â llawer o randdeiliaid. Cyhoeddwyd
adroddiad
y Pwyllgor, sef ‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: y stori hyd yma’, ym
mis Mawrth 2021.
Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr ymatebion i'r argymhellion sydd wedi’u cynnwys
yn yr Adroddiad yn ystod tymor yr Hydref 2021.
Cafodd dadl ei chynnal
ar 24 Tachwedd ar y cyd â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
ynghylch Craffu ar Weithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Fe wnaeth y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad yn y
Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2021 ar: Llunio Dyfodol Cymru—Pennu cerrig milltir
cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad
Tueddiadau’r Dyfodol. Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru: Llesiant cenedlaethau'r dyfodol: Dangosyddion cenedlaethol a
cherrig milltir cenedlaethol ar gyfer Cymru 2021 ar 14 Rhagfyr 2021.
Math o fusnes:
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/08/2021
Dogfennau
- Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol - 1 Rhagfyr 2022
PDF 238 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i'r Cadeirydd - 25 Mai 2022
PDF 236 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - 7 Ebrill 2022
PDF 106 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - 7 Mawrth 2022
PDF 428 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i'r Cadeirydd - 15 Chwefrof 2022
PDF 109 KB
- Llythyr gan y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - 19 Ionawr 2022
PDF 197 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Gadeirydd y Pwyllgor - 10 Ionawr 2022
PDF 193 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - 8 Rhagfyr 2021
PDF 105 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol - 8 Rhagfyr 2021
PDF 92 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru – 8 Hydref 2021
PDF 916 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru – 8 Hydref 2021
PDF 900 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 1 Hydref 2021
PDF 348 KB
- Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor gan y Llywodraeth Cymru (Medi 2021)
PDF 309 KB
- Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor gan Llywydd - 22 Medi 2021
PDF 89 KB
- Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol - 3 Medi 2021
PDF 297 KB
- Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru - 31 Awst 2021
PDF 128 KB