Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus
Inquiry5
Mae gan
Archwilydd Cyffredinol Cymru ddyletswydd, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015, i archwilio a pharatoi adroddiad yn ystyried i ba raddau y
mae’r cyrff cyhoeddus perthnasol wedi gweithredu’n unol â’r ‘egwyddor datblygu
cynaliadwy’ wrth benderfynu ar y camau i’w cymryd i gyflawni’r ‘amcanion
llesiant’.
Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei Adroddiad
statudol cyntaf mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
2015, a hynny’n unol â’r gofyniad iddo
fod ar gael 12 mis cyn unrhyw etholiad yn ymwneud â’r Senedd.
Mae gofyniad tebyg ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol,
a chyhoeddwyd ei hadroddiad
cyntaf hithau ym mis Mai 2020.
Mewn cyfarfod o
Fforwm y Cadeiryddion ym mis Mawrth 2020, cytunwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus arwain y gwaith o archwilio’r adroddiadau hyn.
Cafodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol ym mis Mai 2020 chytunodd i gynnal archwiliad ehangach
o’r adroddiadau yn ystod gweddill y Senedd yma.
Cynhaliwyd digwyddiad (rhithwir) i randdeiliaid ar 12
Hydref 2020 pan drafododd dros 50 o gyfranogwyr y Rhwystrau i Weithredu
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn Llwyddiannus a'r heriau o
sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus yn y dyfodol.
Lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad
ar 12 Hydref a ddaeth i ben ar 27 Tachwedd 2020.
Cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth lafar rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror
2021.
Cyhoeddwyd adroddiad
y Pwyllgor ar 17 Mawrth 2021 a chynhaliwyd Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24
Mawrth 2021.
Ystyrir yr ymatebion i Adroddiad y Pwyllgor gan y Pwyllgor olynol yn y
Chweched Senedd.
Sesiwn
Dystiolaeth |
Sesiwn
Dystiolaeth |
Sesiwn
Dystiolaeth |
Sesiwn
Dystiolaeth |
Panel
1: Archwilydd Cyffredinol
Cymru Panel
2: Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF Cymru) Sustrans Cymru Y Sefydliad Tai Siartredig |
|||
Panel
1: Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Ymddiriedolaeth GIG
Prifysgol Velindre Panel
2: Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda* Bwrdd Iechyd Addysgu
Powys* * Methu â bod yn bresennol oherwydd y pandemig COVID-19 |
|||
Panel
1: Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir Ynys Môn Panel 2: Cyngor Sir y Fflint Cyngor
Sir Powys |
|||
Panel
1: Llyfrgell Genedlaethol Amgueddfa Genedlaethol Cymru Panel 2: Cyfoeth Naturiol Cymru Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Iechyd Cyhoeddus Cymru |
|||
Panel
1: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Panel
2: Llywodraeth Cymru |
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/04/2020
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor - Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol: Y stori hyd yma (Mawrth 2021)
PDF 4 MB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip - 24 Mawrth 2021
PDF 293 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Llywydd - 16 Mawrth 2021
PDF 109 KB
- Ymgynghoriad
- Pecyn Ymynghori
PDF 12 MB
- Llythyr ymgynghori - 12 Hydref 2020
PDF 127 KB
- Ymgysylltu â phobl ifanc
- Ymgysylltu â Phobl Ifanc – Crynodeb
PDF 170 KB
- Ymgysylltu â phobl ifanc: pecyn adnoddau gweithgareddau
PDF 333 KB
- Ymgysylltu
- Canfyddiadau'r digwyddiad i randdeiliaid (12 Hydref 2020)
PDF 275 KB
- Gohebiaeth
- Cyflwyniad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru - Ionawr 201 (Saesneg yn unig)
PDF 337 KB Gweld fel HTML (13) 40 KB
- Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru - 14 Ionawr 2021
PDF 179 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - 29 Mai 2020
PDF 187 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Ysgolion a Grwpiau Ieuenctid – 27 Hydref 2020
PDF 253 KB
Ymgynghoriadau