Pobl y Senedd

Rhys ab Owen AS

Rhys ab Owen AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Aelod Annibynnol Plaid Cymru

Heb Grŵp

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Beth yw ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg bod rhestr aros o 155 wythnos ar gyfer triniaethau wroleg brys?

Wedi'i gyflwyno ar 27/03/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod carchardai yng Nghymru yn ymdrin yn effeithiol â materion iechyd meddwl, yn enwedig hunan-niweidio?

Wedi'i gyflwyno ar 20/03/2024

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i greu gwasanaeth nos ar gyfer bysiau a threnau Caerdydd, tebyg i'r hyn sydd ym Manceinion a Glasgow?

Wedi'i gyflwyno ar 20/03/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i foderneiddio'r system amserlennu bysiau yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 20/03/2024

Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu sicrhau diogelwch i fyfyrwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus, o ystyried bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cludiant i'r ysgol i'r gwasanaeth bws rheolaidd a d...

Wedi'i gyflwyno ar 20/03/2024

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adroddiadau am farwolaethau yng Ngharchar y Parc?

Wedi'i gyflwyno ar 20/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhys ab Owen AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a llwyddiannau

Prif ddiddordebau Rhys yw materion cyfansoddiadol, ymateb i’r argyfwng hinsawdd, dileu tlodi plant a sicrhau bywyd gwell i deuluoedd a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Hefyd, mae ganddo ddiddordeb mawr yn hanes lleol Caerdydd a’r iaith Gymraeg, ynghyd â materion cyfreithiol a materion sy’n gysylltiedig â chyfiawnder.

Hanes personol

Cafodd Rhys ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, lle mynychodd Ysgol Glantaf. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen a chwblhaodd ei gwrs Bar ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Pantyfedwen iddo.

Mae Rhys yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'u merch.

Cefndir proffesiynol

Cyn ei ethol, bu Rhys yn gweithio fel bargyfreithiwr i Siambrau Iscoed, Abertawe. Mae wedi gwasanaethu fel bargyfreithiwr ers 2010.

Fe’i penodwyd yn Farnwr Tribiwnlys Haen Gyntaf yn y Siambr Hawliau Cymdeithasol (2019 - 2021).

Bu’n aelod o fwrdd cynghori prosiect cyfiawnder ac awdurdodaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru, roedd yn aelod o banel cynllun cyfraith gyhoeddus Llywodraeth Cymru ac yn ddarlithydd y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2014 a 2019.

Yn 2018-19, bu Rhys yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel pennaeth polisi’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn Brif Ustus Cymru a Lloegr.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, safodd Rhys yn etholiad Cyngor Caerdydd yn ward Treganna, lle cynyddodd pleidlais Plaid Cymru o 910 i 2,105.

Ers cael ei ethol i’r Senedd, mae Rhys wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd amlwg, fel galw am gyfiawnder i bobl sy’n byw mewn adeiladau uchel iawn ym Mae Caerdydd, pensiwn teilwng i fenywod a anwyd yn y 1950au ac ymgyrchu dros system ofal genedlaethol i Gymru i gefnogi a gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

Aelodaeth o grwpiau trawsbleidiol

Etholwyd Rhys yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ddydd Mercher 10 Tachwedd 2021, gyda Jayne Bryant AS wedii hethol yn ddirprwy.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rhys ab Owen AS