NDM7840 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM7840 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM7840 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig yn unig.

2. Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid yng Nghymru.

3. Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i:

a) cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein, erbyn 2023;

b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu hawdurdod lleol;

c) sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal.

Ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26, Llywodraeth Cymru 

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2021