Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown, Joyce Watson a Mark Reckless.

 

 

(14.00-15.00)

2.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Emma Edworthy, Llywodraeth Cymru

Rachael Clancy, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.

 

(15.00-15.05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i'w nodi 1 - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'r Prif Weinidog ynglŷn â chraffu ar ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Brexit - 6 Chwefror 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur i'w nodi 2 - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'r Arglwydd Boswell ynghylch cysylltiadau rhyng-sefydliadol y DU a’r UE ar ôl-Brexit - 12 Chwefror 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nodwyd y papur.

 

3.3

Papur i'w nodi 3 - Cydsyniad deddfwriaethol: y Bil Masnach - Gohebiaeth gan y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol i'r Cadeirydd ynghylch Bil Masnach y DU - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 15 Chwefror 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nodwyd y papur.

 

3.4

Papur i'w nodi 4 - Gohebiaeth gan y Farwnes Fairhead i'r Cadeirydd ynghylch y Bil Masnach - 19 Chwefror 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nodwyd y papur.

 

3.5

Papur i'w nodi 5 - Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i'r Cadeirydd ynghylch cytundebau rhyngwladol - 26 Chwefror 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nodwyd y papur.

 

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 11 Mawrth 2019

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

5.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a gafwyd.

 

(15.20-15.50)

6.

Amserlen ar gyfer trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Bil Masnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau a derbyniodd yr adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach.

 

(15.50-16.20)

7.

Ystyried dull y Pwyllgor o graffu ar gytundebau rhyngwladol a osodwyd gerbron Senedd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau a derbyniodd ddull y Pwyllgor o graffu ar gytundebau rhyngwladol a osodwyd gerbron Senedd y DU.

7.2 Cytunodd yr Aelodau i adrodd ar dri o'r cytundebau oherwydd materion a nodwyd yn y cytundebau a allai effeithio ar Gymru. Cytunodd y Pwyllgor i beidio ag adrodd ar y cytundebau a ganlyn:

 

  • Y DU/Seland Newydd: Cytundeb ar Gydnabyddiaeth Gilyddol mewn perthynas ag Asesiad Cydymffurfiaeth.
  • Y DU/Awstralia: Cytundeb ar Gydnabyddiaeth Gilyddol mewn perthynas ag Asesiad Cydymffurfiaeth, Tystysgrifau a Marciau.
  • Y DU/Chile: Cytundeb ar Fasnach mewn Cynhyrchion Organig.
  • Cytundeb Trafnidiaeth Ffyrdd gyda Serbia.
  • Cytundeb Trafnidiaeth Ffyrdd gyda Kasakstan.
  • Cytundeb Trafnidiaeth Ffyrdd gyda'r Swistir.
  • Cytundeb Hedfan gyda'r Swistir.

 

 

 

(16.20-16.30)

8.

Ymweliad â Brwsel

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau a derbyniodd bwyntiau gweithredu o’r ymweliad pwyllgor diweddar â Brwsel.