Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol
Y
cefndir
Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar berthynas
Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Roedd rhan un yr
adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y farn o Gymru o ran yr elfennau allweddol a
ddylai fod yn rhan o berthynas rhwng Cymru a'r UE yn y dyfodol. Cafodd yr
adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mai 2018.
Rhan
Dau
Yn ei gyfarfod ar 21 Mai 2018, cytunodd y Pwyllgor i
gynnal ymchwiliad Rhan Dau gan ganolbwyntio ar ba rwydweithiau, perthnasau a
sefydliadau y dylid eu blaenoriaethu, ac yn hollbwysig sut y gellid cynnal y
perthnasau hyn yn y dyfodol.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:
- asesu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â materion allanol a nodi
arfer gorau o rannau eraill o’r byd;
- archwilio sut y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ei chysylltiadau
allanol yn y dyfodol â sefydliadau, rhanbarthau a rhwydweithiau allweddol
Ewrop a/neu ryngwladol, gan gynnwys y gefnogaeth y mae'n ei darparu i
gymdeithasau masnach a chymdeithas sifil;
- archwilio sut y mae trydydd gwledydd a gwledydd a rhanbarthau
is-wladwriaeth yn ymgysylltu â'r UE a sefydliadau'r UE, a'r sail dros
gydweithredu, er mwyn nodi modelau posibl y gallai Cymru eu mabwysiadu ar
ôl Brexit; ac
- archwilio perthnasau Cynulliad Cenedlaethol Cymru â rhwydweithiau a
sefydliadau Ewrop a gwneud argymhellion ar sut y gellid datblygu'r rhain
ar ôl Brexit.
Casglu
tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar i lywio
ei waith ar y dyddiadau a ganlyn:
Yn ei gyfarfod ar 24 Medi 2018, cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori ymchwiliad Cymru yn y Byd yn y gwaith hwn. Arweiniodd cyfnod olaf yr ymchwiliad Cymru
yn y Byd at adroddiad rapporteur (PDF, 203KB).
Ddydd Llun 22 Hydref ymwelodd y Pwyllgor â Llundain i gwrdd ag amrywiaeth o
randdeiliaid, i drafod perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei grynodeb rapporteur (PDF, 155KB) o'r ymweliad ar 18 Chwefror 2019.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad: Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol ddydd Iau 21 Chwefror 2019.
Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"A ninnau ar fin gadael yr UE, mae’n amlwg bod angen
strategaeth newydd ar Gymru o ran ymgysylltiad rhyngwladol, i ystyried y
newidiadau mawr sydd o’n blaenau. Rydym yn croesawu penodiad Gweinidog ar lefel
Cabinet gyda chyfrifoldebau am gysylltiadau rhyngwladol. Fodd bynnag, rydym yn
glir bod gan y Gweinidog gryn dipyn o waith i’w wneud o ran diffinio agwedd
strategol tuag at ymgysylltiad rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi beth
yw blaenoriaethau Cymru, a gweithio gyda phortffolios gweinidogol eraill fel yr
economi ac addysg i wneud i hyn ddigwydd.”
Ymateb
i’r adroddiad
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 24 Ebrill 2019. Trafodwyd yr adroddiad
a’r ymateb yn y Cyfarfod Llawn 1 Mai 2019. Gallwch wylio’r drafodaeth ar Senedd.TV.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2018
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol - 24 Ebrill 2019
- Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol – 21 Chwefror 2019
- Adroddiad rapporteur – 18 Chwefror 2019
PDF 155 KB
- Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol : Adroddiad Pwyllgor y Rhanbarthau - 23 Ionawr 2019
PDF 337 KB
- Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch perthynas Cymru â'r UE yn y dyfodol - 8 Ionawr 2019
PDF 127 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog ynghylch Hub Cymru Affrica - 27 Medi 2018
PDF 169 KB
- Cymru yn y Byd: adroddiad rapporteur – 24 Medi 2018
PDF 203 KB