Cymru yn y Byd: ymchwiliad i ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at faterion allanol

Cymru yn y Byd: ymchwiliad i ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at faterion allanol

Y cefndir

Yn haf 2017, cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaethol i gynnal ymchwiliad i ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at faterion allanol.

Cylch gorchwyl

Gwnaeth y Pwyllgor asesu a oedd bylchau yn null Llywodraeth Cymru o ymdrin â materion allanol a sut y gellid eu llenwi.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • Mapio'r elfennau presennol yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at faterion allanol;
  • Nodi enghreifftiau o arfer gorau o weddill y byd; ac
  • Argymell sut y gellid llenwi unrhyw fylchau yn ymagwedd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Casglu tystiolaeth

Ar 8 Mai 2017, cyfarfu Jane Hutt AC ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, Dr Einion Dafydd a Dr Jo Hunt, mewn sesiwn breifat, anffurfiol. Diben y cyfarfod oedd cael trosolwg o ddull gweithredu rhyngwladol Llywodraeth Cymru ac ymchwilio i enghreifftiau posibl o arfer gorau o fannau eraill yn y byd.

Ar 5 Mehefin 2017, cynhaliwyd cyfarfod ychwanegol. Fe wnaeth Jane Hutt AC gyfarfod â’r Athro Michael Keating o Brifysgol Aberdeen a Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth.

Arweiniodd cam cyntaf y gwaith hwn at adroddiad rapporteur (PDF, 203KB) a baratowyd gan Steffan Lewis AC a Jane Hutt AC i'r Pwyllgor ar 24 Medi 2018.

Yn y cyfarfod hwn, cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori ail gam y gwaith hwn yn Rhan Dau o'i ymchwiliad i berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Fel y cyfryw, bwriad y Pwyllgor oedd archwilio ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at faterion allanol yn gyffredinol, gan gynnwys:

  • nodi enghreifftiau o arfer gorau o rywle arall yn y byd; ac
  • argymell sut y gellid llenwi unrhyw fylchau yn ymagwedd gyfredol Llywodraeth Cymru.

Hub Cymru Africa

Ar 25 Mehefin 2018, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ar Hub Cymru Africa a dull Llywodraeth Cymru o weithredu datblygiad rhyngwladol.

Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd (PDF, 169KB) y Pwyllgor at Brif Weinidog Cymru, yn gofyn am ragor o wybodaeth.

Ymatebodd (PDF, 289KB) y Prif Weinidog ar 16 Hydref 2018.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2018

Dogfennau