Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol
Ar ôl i’r trafodaethau Brexit rhwng yr
Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU symud yn eu blaenau i drafodaethau am y
cyfnod pontio a’r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol, lansiodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ymchwiliad i’r hyn yr oedd
ar Gymru ei hangen o'r trafodaethau hyn.
Y cefndir
Bu cam cyntaf gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, rhwng Gorffennaf 2016 a Ionawr
2017, yn canolbwyntio ar nodi'r goblygiadau
i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn ymchwiliadau dilynol i'r polisi rhanbarthol a phorthladdoedd Cymru ymhelaethwyd ar rai o'r
themâu mwy ymarferol a godwyd yn yr ymchwiliad cyntaf hwn ac fer wnaeth gwaith
y Pwyllgor ar Fil yr
Undeb Ewropeaidd (Ymadael) wedi datblygu llawer o'r materion
cyfansoddiadol a nodwyd o fewn y DU.
Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru Bapur Gwyn ar y cyd, Diogelu Dyfodol Cymru (PDF, 2.78MB)
Roedd y papur hwn yn amlinellu eu safbwynt o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fe
wnaeth Llywodraeth y DU, sawl tro, fynegi safbwynt ar y berthynas yr hoffai fod
wedi gweld y DU yn ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl gadael.
Yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 14 Rhagfyr
2017,
cytunodd arweinwyr yr UE27 bod cynnydd digonol wedi'i gyflawni yng ngham cyntaf
trafodaethau Brexit.
Ar y sail hon, maent wedi mabwysiadu
canllawiau drafft i symud i ail gam y trafodaethau lle y bydden nhw hefyd yn
dechrau trafodaethau am y cyfnod pontio a'r fframwaith ar gyfer y berthynas yn
y dyfodol.
Yng ngoleuni'r datblygiadau hyn,
cytunodd y Pwyllgor i lansio ac ymchwilio i berthynas Cymru gyda'r Undeb
Ewropeaidd yn y dyfodol. O ran ei ddull gweithredu, cytunodd y Pwyllgor i
atgyfnerthu'r gwaith yr oedd wedi’i wneud hyd yn hyn ac ychwanegu ato gyda
safbwyntiau presennol y rhanddeiliaid.
Diben hyn oedd galluogi craffu'n
effeithiol ar fewnbwn Llywodraeth Cymru i'r trafodaethau ac i sicrhau bod y
materion sy'n bwysicaf i Gymru yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn y
trafodaethau.
Cylch gorchwyl
Asesu:
·
sefyllfa
Llywodraeth Cymru, fel y'i mynegir yn ei Phapur Gwyn Sicrhau Dyfodol Cymru (PDF,
2.78MB)
(Ionawr 2017), gan gymharu'r sefyllfa honno â gwaith y Pwyllgor hyd yn hyn;
·
sefyllfa
Llywodraeth y DU;
·
y
cynnydd o ran trafodaethau Erthygl 50;
·
a
thystiolaeth rhanddeiliaid.
Roedd yr asesiad hwn yn cynnwys
ystyried pa berthynas ffurfiol y gallai Cymru fod wedi ei chael gyda’r Undeb Ewropeaidd
ar ôl gadael y DU.
Amcanion
- Nodi'r agweddau
mwyaf hanfodol ar berthynas y DU yn y dyfodol gyda'r Undeb Ewropeaidd o
safbwynt Cymru;
- sicrhau bod y
materion sy'n bwysicaf i Gymru yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn y
trafodaethau; a
- nodi cyfleoedd i
barhau i ymgysylltu â'r Undeb Ewropeaidd a'i sefydliadau ar ôl Brexit.
Casglu tystiolaeth
Ar 29 Ionawr
2018, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad
(PDF, 633KB) i ddwyn ynghyd randdeiliaid o amryw sectorau i drafod
blaenoriaethau perthynas Cymru ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Ar 5 Mawrth 2018, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu
gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar berthynas
Cymru â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Adroddiad
– rhan un
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Perthynas Cymru ag Ewrop
yn y dyfodol (PDF, 9MB) ar 27 Mawrth 2018.
Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David
Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Nid rhestr siopa o beth ddylai fod yn y cytundeb
hwnnw yn y dyfodol a beth na ddylai fod ynddo yw ein hadroddiad. Mae'n amlygu’r
pryderon sydd gennym ni, a llawer o'n rhanddeiliaid, ynghylch y goblygiadau i
Gymru pe na bai’r materion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y berthynas honno â’r
UE ar ôl ymadael.
Rydym yn disgwyl i Weinidogion y DU ystyried y
goblygiadau ar gyfer pob aelod cyfansoddol o’r DU wrth negodi ar y berthynas
â’r UE ar ôl ymadael, gan gynnwys y materion a godir yn yr adroddiad hwn, i
sicrhau ein bod yn sicrhau Brexit sy'n gweithio i bawb."
Ymateb i’r adroddiad
Ar 16 Mai 2018, gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb (PDF, 200KB) i ran un o’n hadroddiad: Perthynas Cymru ag Ewrop
yn y dyfodol (PDF, 9MB).Trafodwyd yr adroddiad a’r ymateb yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 23 Mai. Gallwch wylio’r drafodaeth ar Senedd.TV.
Dechreuodd ail ran yr
ymchwiliad, Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol, ym mis Mehefin 2018.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/12/2017
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol - Mai 2018
- Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol: Rhan un: safbwynt o Gymru - Mawrth 2018
- Trawsgrifiad - 29 Ionawr 2018
PDF 633 KB
Ymgynghoriadau
- Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol (Wedi ei gyflawni)