Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru
Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru

Fel rhan o’i gylch gwaith o ystyried
y goblygiadau i Gymru wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd,
penderfynodd y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gynnal ymchwiliad i oblygiadau gadael yr
UE i borthladdoedd Cymru.
Fel rhan o’r ymchwiliad, bu’r
Pwyllgor yn trafod:
- pa risgiau a chyfleoedd a oedd i borthladdoedd
Cymru yng nghyd-destun gadael yr UE; a
- pha gamau y dylid eu cymryd, a chan bwy, i
liniaru unrhyw risgiau a sicrhau unrhyw fuddion.
Casglu tystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar
fel rhan o’i ymchwiliad ar y dyddiadau a ganlyn:
12 Mehefin 2017 (577 KB)
3 Gorffennaf 2017 (311 KB)
Hefyd, aeth y Pwyllgor ar ymweliad
rapporteur â Dulyn i siarad â chymheiriaid yn Llywodraeth Iwerddon, yn ogystal
â busnesau a rhanddeiliaid yn y sector morwrol. Darllenwch y crynodeb
o’r trafodaethau hyn (PDF 192KB).
Hefyd, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth
ysgrifenedig fel rhan o’r ymchwiliad, gellir gweld y rhain isod.
Adroddiad
Cafodd adroddiad y Pwyllgor ar
oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru ei gyhoeddi ar 4
Awst 2017. Darllenwch yr adroddiad llawn.
Ar
ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae
porthladdoedd Cymru yn cefnogi 18,400 o swyddi yn uniongyrchol, a llawer mwy y
tu hwnt i hynny. Ar hyn o bryd, mae Caergybi ac Abergwaun yn gweithredu
yn ôl y cysyniad y gall nwyddau a phobl deithio’n ddi-dor o un ochr o Fôr
Iwerddon i’r llall. Clywsom nad oes gan lawer o borthladdoedd Cymru y capasiti
i gynnal archwiliadau tollau a ffiniau newydd, ac y gallai hyn gael effaith
annerbyniol gan gynnwys mwy o oedi a thagfeydd.
“Rydym
hefyd yn gwybod bod yna ofnau yn y diwydiant y gallai gosod ffin feddal yn y
dyfodol yng Ngogledd Iwerddon, tra bod ffin galetach yn ei lle ar draws Môr
Iwerddon, beri risg i borthladdoedd Cymru oherwydd y gallai traffig ddewis
teithio i borthladdoedd yn Lloegr a’r Alban. Byddai hyn yn cael effaith
economaidd ddifrifol ar Gymru, ac mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn
gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw ein porthladdoedd a’n
diwydiannau dan anfantais annheg o ganlyniad i adael yr UE.”
Ymateb i’r adroddiad
Gosododd
Llywodraeth Cymru ei
hymateb i’r adroddiad ym mis Hydref 2017. Cafodd yr adroddiad ei
drafod yn y Cyfarfod Llawn 11 Hydref 2017. Gallwch wylio’r
drafodaeth ar Senedd.TV.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2017
Dogfennau
- Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru - Awst 2017
- Ymateb Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol, 'Ymchwiliad i Oblygiadau Gadael yr Undeb Ewropeaidd i Borthladdoedd Cymru'
- 01POR Rail Freight Group
PDF 149 KB Gweld fel HTML (3) 25 KB - 02POR Cynghrair Twristiaeth Cymru
PDF 308 KB Gweld fel HTML (4) 39 KB - 03POR Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau
PDF 203 KB Gweld fel HTML (5) 23 KB - 04POR Irish Ferries
PDF 790 KB Gweld fel HTML (6) 113 KB - 05POR Porthladd Aberdaugleddau
PDF 393 KB Gweld fel HTML (7) 31 KB - 06POR Grŵp Porthladdoedd Cymru
PDF 392 KB Gweld fel HTML (8) 21 KB - 07POR Prifysgol Caerdydd
PDF 782 KB Gweld fel HTML (9) 139 KB - 08POR Cymdeithas Cludiant Ffyrdd
PDF 788 KB Gweld fel HTML (10) 130 KB - 09 POR Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
PDF 430 KB - 10 POR Siambr Forgludiant y DU
PDF 341 KB - 11 POR Tystiolaeth ychwanegol gan Borthladd Aberdaugleddau
PDF 2 MB - Crynodeb o gyfarfodydd rapporteur
PDF 269 KB Gweld fel HTML (14) 27 KB - Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghylch yr Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru - 30 Hydref 2017
PDF 156 KB