Polisi masnach y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd waith y Cynulliad i
ymateb i gynigion Llywodraeth y DU o ran masnach ar gyfer y dyfodol, gan
gynnwys y Bil Masnach.
Y
cefndir
Ar 9 Hydref 2017,
cyhoeddodd Llywodraeth y DU Preparing
for our future UK Trade Policy.
Mae'r papur
polisi hwn yn nodi gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer polisi masnach y DU
ar ôl iddi adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r papur yn
nodi pum blaenoriaeth ar gyfer polisi masnachu newydd:
- Masnach sy'n dryloyw ac
yn gynhwysol: mae'r
papur yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn cynnal negodiadau masnach a
pholisi mewn modd tryloyw gan gynnwys i'r deddfwrfeydd datganoledig ond
nid yw'n nodi mecanwaith penodol ar gyfer sut y bydd yn gwneud hyn.
- Cefnogi amgylchedd
masnachu byd-eang sy'n seiliedig ar reolau: bydd y DU yn cynnal yr ymrwymiadau a wnaed
yn rhinwedd ei haelodaeth o Sefydliad Masnach y Byd ac yn sicrhau ei bod
wedi gweithredu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol er mwyn cau unrhyw fylchau
yn yr ymrwymiadau a wnaed o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
- Hybu perthnasoedd
masnachu: dywed y
papur y bydd y DU yn chwilio am berthnasau masnachu newydd ac y bydd yn
dechrau trafodaethau am y rhain yn ystod unrhyw gyfnod gweithredu. Mae'n
nodi y bydd gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn y
trafodaethau yn ogystal â chyrff cyhoeddus megis y GIG.
- Cefnogi gwledydd sy'n
datblygu: bydd
mynediad ffafriol yn parhau i gael ei gynnig i wledydd sy'n datblygu i
gefnogi eu datblygiad economaidd. Bydd angen deddfwriaeth i ganiatáu i'r
DU ddatblygu systemau annibynnol ar gyfer hyn.
- Sicrhau bod pawb yn
cael ei drin yn yr un modd: bydd y DU yn sefydlu systemau ar gyfer rhwymedïau ac anghydfodau
masnach sy'n efelychu'r gweithdrefnau a'r rhwymedïau presennol sydd ar
gael i fusnesau'r DU yn rhinwedd aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
Mewn perthynas â
rôl llywodraethau datganoledig a deddfwrfeydd mewn polisïau a chytundebau
masnach, dywed y papur:
"We
will ensure the
way we develop
our own trade policy is transparent and inclusive so that concerns are heard
and understood, and
the right facts are
available. Parliament, the
devolved administrations,
devolved legislatures, local government,
business, trade unions, civil
society, consumers, employees
and the
public from every part of
the UK will
have the opportunity
to engage with and contribute to our
trade policy, to develop an approach
which maximises the benefits felt
across UK society
and its regions".
Ar 7 Tachwedd
2017, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Masnach
i Dŷ’r
Cyffredin. Mae'r Bil yn darparu:
- Pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion
Datganoledig wneud newidiadau i'r gyfraith ddomestig y gallai fod eu
hangen i weithredu Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael y
Llywodraeth;
- Pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion
Datganoledig wneud newidiadau i'r gyfraith ddomestig y gallai fod eu
hangen i weithredu unrhyw gytundebau y bydd Llywodraeth y DU yn eu gwneud
gyda gwledydd trydydd parti sydd eisoes wedi llofnodi bargen fasnach
gyda'r UE;
- Ar gyfer sefydlu Awdurdod Rhwymedïau Masnach;
a
- Pwerau i Cyllid a Thollau EM gasglu a rhannu
data a gwybodaeth ychwanegol ar allforwyr y DU.
Bydd angen i'r
Bil gael cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad gan ei fod yn cyffwrdd â materion
datganoledig mewn nifer o feysydd.
Pwyllgorau'r Cynulliad
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
wedi cynnal ymchwiliad Gwerthu
Cymru i'r Byd sy'n edrych ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran
masnach ryngwladol.
Rhoddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol - sef 'Pwyllgor Brexit' y Cynulliad - ystyriaeth i oblygiadau
polisi masnach i Gymru yn y dyfodol yn ystod cyfnod cyntaf ei waith, a
arweiniodd at adroddiad ym mis Ionawr 2017 Y
Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd (PDF, 1MB).
Ar ôl i
Lywodraeth y DU gyhoeddi ei phapur polisi, ysgrifennodd
y Pwyllgor (PDF,147KB) at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol i
ofyn am ragor o wybodaeth am y rôl y mae Llywodraeth y DU yn ei rhagweld ar gyfer
y deddfwrfeydd datganoledig. Gellir gweld gohebiaeth arall â Llywodraeth y DU
ar fasnach isod.
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar 7 Rhagfyr 2017. Ar ôl hynny, cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar y
Bil Masnach: cydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig (PDF,
338KB) ddydd Gwener, 9 Mawrth 2018.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad atodol: Y
Bil masnach – yr ail adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion
cysylltiedig (PDF, 199KB) ddydd Gwener 8 Mawrth.
Pleidleisiodd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid rhoi cydsyniad i'r Bil Masnach ar 12 Mawrth 2019.
Yn dilyn
gwelliant i’r Bil, trafodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (PDF, 84KB) arall yn y Cyfarfod Llawn ar 21
Mai 2019.
O ganlyniad i
hyn, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol o blaid y Bil yn cael ei ystyried
ymhellach gan Senedd y DU.
Casglu
tystiolaeth
Gofynnodd y Pwyllgor rai cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
am y Bil Masnach yn ei gyfarfod ar 20
Tachwedd 2017. Gofynnodd hefyd gwestiynau i Brif Weinidog Cymru yn ei
gyfarfod ar 27
Tachwedd 2017.
Ar 4 Rhagfyr
2017, cynhaliodd y Pwyllgor seminar breifat
gyda thri academydd i archwilio'r goblygiadau i Gymru yn sgil polisi masnach Llywodraeth
y DU yn y dyfodol a goblygiadau'r Bil Masnach i Gymru.
Ar 12 Chwefror
2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn
dystiolaeth gyda Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth ar y Bil Masnach, y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n
cyd-fynd ag ef gan Lywodraeth Cymru ac ar bapur Llywodraeth Cymru ar y Polisi
Masanch: Materion yn ymwneud â Chymru.
Ar 12 Mawrth
2018, cafodd aelodau’r Pwyllgor gyflwyniad gan yr Athro Nick Perdikis ar ei adroddiad
ar fodelu effaith economaidd Brexit ar economi Cymru.
Ar 18 Ebrill
2018, ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Roedd y llythyr
(PDF, 223 KB) yn ymwneud ag adroddiadau bod Llywodraeth y DU wedi cael
trafodaethau â gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ynghylch dyfodol
masnach.
Ar 14 Mai 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol sesiwn
graff gyda Phrif Weinidog Cymru. Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar
oblygiadau polisi masnachu’r DU a Bil Ymadael â’r UE.
Ar 15 Hydref
2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn
dystiolaeth gyda George Hollingbery AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi
Masnach.
Ar 12 Tachwedd
2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol seminar
preifat anffurfiol gyda Dr Ludivine Petetin ynghylch Sefydliad Masnach y Byd.
Mae gwybodaeth am
waith craffu’r Pwyllgor ar drefniadau rhyngwladol i’w gweld yma.
Cadw mewn cysylltiad
Os hoffech wybod
rhagor am waith y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ewch i dudalen hafan y Pwyllgor,
dilynwch ei gyfrif Twitter neu
cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddMADY@cynulliad.cymru
Mae'r Pwyllgor yn
anfon e-bost yn rheolaidd sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit. Os
hoffech inni anfon hwn atoch, e-bostiwch SeneddMADY@cynulliad.cymru.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/12/2017
Dogfennau
- Y Bil Masnach: Ail adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig - 8 Mawrth 2019
PDF 200 KB
- Gohebiaeth gan George Hollingbery AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach ynghylch gwelliannau i’r Bil Masnach - 10 Gorffennaf 2018 [Saesneg yn unig]
PDF 130 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi at Angus MacNeil AS, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Fasnach Ryngwladol, ynghylch strategaeth fasnach y DU ar ôl Brexit – 21 Mehefin 2018 [Saesneg yn unig]
PDF 283 KB
- Gohebiaeth oddi wrth Greg Hands AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach, ynghylch goblygiadau polisi masnach y dyfodol – 11 Mehefin 2018 [Saesneg yn unig]
PDF 97 KB
- Gohebiaeth gan David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Greg Hands AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach, ynghylch goblygiadau polisi masnach y dyfodol – 16 Mai 2018 [Saesneg yn unig]
PDF 153 KB
- Gohebiaeth at Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch polisi masnach ar ôl Brexit – 18 Ebrill 2018
PDF 223 KB
- Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Y Bil Masnach: Adroddiad ar gydsyniad deddfwriaethol a materion cysylltiedig - dydd Gwener 9 Mawrth 2018
PDF 572 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Polisi Masnach at y Cadeirydd ar y polisi masnach yn y dyfodol [Saesneg yn unig] - 26 Hydref 2017
PDF 90 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol ar y polisi masnach yn y dyfodol [Saesneg yn unig] - 14 Tachwedd 2017
PDF 147 KB