Gwerthu Cymru i’r Byd
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
wedi cynnal ymchwiliad i Werthu Cymru i'r Byd.
Crynodeb
Diben yr
ymchwiliad yw rhoi trosolwg i'r Pwyllgor o'r hyn sydd wedi cael ei wneud hyd
yma o ran gwerthu Cymru i wledydd tramor a beth y gellid ei wneud yn y dyfodol,
yn bennaf drwy feysydd marchnata, twristiaeth a sgiliau/hyfforddiant.
Mae'r Pwyllgor yn
rhoi sylw i'r materion a ganlyn:
- Sut y mae Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU yn gwerthu Cymru i'r Byd ar hyn o bryd o ran masnach,
twristiaeth a sgiliau/hyfforddiant;
- Swyddogaeth swyddfeydd tramor Llywodraeth
Cymru;
- Cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU i allforwyr, a mewnfuddsoddi;
- Ymwybyddiaeth o wefan 'Wales.Com' ac
yn benodol y cymorth a gynigir gan Busnes Cymru;
- Eglurder a chryfder “brand” Cymru o
ran twristiaeth ryngwladol;
- Llwyddiant ryngwladol gweithgareddau
marchnata Croeso Cymru;
- Sut y mae colegau/prifysgolion yn
hyrwyddo astudio rhyngwladol yng Nghymru;
- Sut y gall Llywodraeth Cymru helpu o
ran denu digwyddiadau rhyngwladol mawr i Gymru;
- Y defnydd a wneir o gymorth gan yr
Undeb Ewropeaidd ac effaith gadael yr UE;
- Beth y gall Cymru ei ddysgu gan
wledydd o faint tebyg.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2017
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Gwerthu Cymru i’r Byd - Medi 2018
PDF 1 MB
- Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 355 KB
Ymgynghoriadau
- Gwerthu Cymru i’r Byd (Wedi ei gyflawni)