Cytundebau Rhyngwladol: Cytundebau a ystyriwyd gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cefndir

Yn ei gyfarfod ar 28 Ionawr 2019, cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gynnal ymchwiliad i gytundebau rhyngwladol y DU a'u goblygiadau i Gymru.

Gellir gweld fideo esboniadol ar gytundebau rhyngwladol isod.

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/971rM_r3wtQ

Adrodd

Gellir gweld sut y craffodd y Pwyllgor ar bob cytundeb isod.

 

Dechreuodd y Pwyllgor ystyried cytundebau rhyngwladol a'u goblygiadau i Gymru yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth 2019.

Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd y Pwyllgor i adrodd i'r Senedd ar unrhyw gytundebau lle mae angen mynd i'r afael â phwynt craffu sylweddol, ac i ddwyn yr adroddiadau hyn at sylw:

  • Gweinidog perthnasol Cymru;
  • Gweinidog perthnasol y DU;
  • y pwyllgorau perthnasol yn Senedd y DU, Senedd yr Alban a Senedd Gogledd Iwerddon.

Mae'r cytundebau a drafodwyd a'r camau a gymerwyd ers 4 Mawrth 2019 wedi'u crynhoi mewn tabl (PDF, 209KB).

O'r deg cytundeb a ystyriwyd yn y cyfarfod ar 4 Mawrth 2019, cytunodd y Pwyllgor i adrodd ar dri er mwyn tynnu sylw at bryderon a fynegwyd ynghylch ymgynghori â'r llywodraethau datganoledig.

Yn y cyfarfod ar 18 Mawrth 2019 ystyriodd y Pwyllgor saith cytundeb a chytunodd i adrodd ar dri.

Ddydd Gwener 24 Mai, cyhoeddodd y Pwyllgor ei drydydd adroddiad ar gytundebau rhyngwladol: Adroddiad ar y cytundeb rhwng y DU, Gwlad yr Iâ a Norwy ar fasnach nwyddau.

Yn ei gyfarfod ar 16 Medi 2019, trafododd y Pwyllgor wyth cytundeb a chytunodd i adrodd ar ddau ohonynt. Ar 17 Medi 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor ei bedwerydd adroddiad ar gytundebau rhyngwladol.

Ar 31 Hydref 2019, ysgrifennodd [Saesneg yn unig] (PDF, 169KB) y Cadeirydd at yr Arglwydd Kinnoull, Cadeirydd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ'r Arglwyddi ynghylch y DU/Korea: cytundeb masnach rydd.

Gellir gweld gwybodaeth am waith craffu’r Pwyllgor ar bolisi masnach y DU a’i oblygiadau i Gymru yma.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar gytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit a rôl i’r Cynulliad ar 18 Rhagfyr 2019. Mae’r adroddiad yn amlinellu dull posibl o alluogi’r Senedd i ymgysylltu â chytundebau rhyngwladol arwyddocaol y DU yn y dyfodol, ynghyd â dull posibl o graffu ar y cytundebau hynny. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 5 Chwefror 2020.

Ar 3 Mehefin 2020, darparodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig [Saesneg yn unig] (PDF, 207KB) i ymchwiliad Is-bwyllgor Cytundebau Rhyngwladol yr UE Tŷ'r Arglwyddi ynglŷn â sut y mae Senedd y DU yn craffu ar gytuniadau [llythr eglurhaol] [Saesneg yn unig] (PDF, 138KB).

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2019

Dogfennau