Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/05/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan David Melding, ac roedd Suzy Davies yn bresennol fel
dirprwy. 1.3 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson. 1.4
Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd Grŵp
Cynghori Llywodraeth Cymru ar yr UE . 1.5
Diolchodd y Cadeirydd i Mark Reckless am ei waith fel Aelod o'r Pwyllgor. |
|
(14.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 2.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.00 - 14.45) |
Sesiwn briffio breifat ar fframweithiau cyffredin Georgina
Haarhoff, Llywodraeth Cymru Paul Harrington,
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Rhoddodd y tystion friff technegol i'r Aelodau ar fframweithiau cyffredin y DU. 3.2
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(14.45 - 15.30) |
Gwaith dilynol ar ein parodrwydd i ymadael â’r UE – sesiwn dystiolaeth 1 Dr Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd Rob Stewart, Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(15.30 - 16.15) |
Gwaith dilynol ar ein parodrwydd i ymadael â’r UE – sesiwn dystiolaeth 2 Yr Athro
Colin Riordan, Prifysgolion Cymru Mairwen
Harris, Prifysgolion Cymru Nesta
Lloyd-Jones, Cydffederasiwn GIG Cymru Cofnodion: 5.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(16.15 - 16.20) |
Papurau i’w nodi |
|
Papur i'w nodi rhif 1: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach (Memorandwm Rhif 3): Y Bil Masnach Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1.1
Nodwyd y papur. |
||
Papur i'w nodi rhif 2: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Iwerddon yn ymwneud â’r ardal Deithio Gyffredin a’r hawliau a’r breintiau cyfatebol perthnasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2.1
Nodwyd y papur. |
||
(16.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.20 - 16.35) |
Gwaith dilynol ar ein parodrwydd i ymadael â'r UE – ystyried tystiolaeth Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.35 - 16.50) |
Craffu ar gytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1
Cytunodd yr Aelodau i gyflwyno adroddiad ar y cytundeb ar fasnachu nwyddau
rhwng Gwlad yr Iâ, Norwy a’r DU oherwydd hepgoriadau sylweddol yn ei gwmpas o'i
gymharu â pherthynas bresennol yr UE â Gwlad yr Iâ a Norwy o dan gytundeb yr
Ardal Economaidd Ewropeaidd. 9.2
Trafododd yr Aelodau gytundeb y DU / Norwy ar drafnidiaeth ffyrdd rhyngwladol,
a’i nodi. 9.3
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i
ofyn iddo egluro sut y mae telerau cytundeb y DU / Norwy ar drafnidiaeth ffyrdd
ryngwladol yn wahanol i'r rhai ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd o dan Gytundeb
presennol yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). |
|
(16.50 - 16.55) |
Trafodaeth ar yr ymweliad arfaethedig â gogledd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1
Trafododd yr Aelodau yr ymweliad arfaethedig â Gogledd Cymru. |
|
(16.55 - 17.05) |
Trafodaeth ar Fil y Cytundeb Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd Dogfennau ategol: Cofnodion: 11.1
Trafododd yr Aelodau bapur gan y Gwasanaeth Ymchwil ar Ddeddfu ar gyfer y
Cytundeb Ymadael rhwng y DU a'r UE. |