Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau. 1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu
gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. 1.3. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod
am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol
Sefydlog 17.22. |
||
(13.30 - 15.00) |
Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - sesiwn dystiolaeth 1: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Cynghorydd
Anthony Hunt, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cynghorydd Llinos
Medi, Arweinydd, Cyngor Sir Ynys Môn Cynghorydd Sam
Rowlands, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Chris Llewelyn,
Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Carys Lord, Pennaeth
Cyllid, Cyngor Bro Morgannwg Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd
Cyngor Sir Ynys Môn ·
Y Cynghorydd Sam Rowlands,
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ·
Chris Llewelyn, Prif Weithredwr
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ·
Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2.2 Yn ystod y cyfarfod cytunodd Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru i gadarnhau a oes asesiad ar gael o'r effaith y mae siopau gwag
wedi'i chael ar y refeniw a gasglwyd o ardrethi annomestig ers dechrau'r
pandemig ac i chwilio am wybodaeth am y rhyddhad sydd ar gael i fusnesau
bach. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â data cwynion y GIG Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a.
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â data
cwynion y GIG. |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn?adeiladau uchel iawn Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog
Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn. |
||
Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3.a.
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn
perthynas ag effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol. |
||
Llythyr oddi wrth Sefydliad Bevan at y Prif Weinidog mewn perthynas â thlodi a COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.4.a.
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Sefydliad Bevan at y Prif Weinidog mewn
perthynas â thlodi a COVID-19. |
||
Cyflwyniad gan Sefydliad Bevan ynghylch tlodi yn y gaeaf a COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.5.a.
Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad gan Sefydliad Bevan mewn perthynas â thlodi yn y
gaeaf a COVID-19. |
||
Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y Bil Cam-drin Domestig Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.6.a.
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
ynghylch y Bil Cam-drin Domestig. |
||
Llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.7.a.
Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r
Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch
cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(15.10 - 15.25) |
Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15.25 - 16.25) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Trafododd
y Pwyllgor yr adroddiad drafft a nifer o newidiadau. |
|
(16.25 - 16.45) |
Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1. Trafododd y Pwyllgor y cynnig drafft, yr adroddiad
drafft a’r telerau ac amodau drafft ar gyfer penodi Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro, gan gytuno arnynt. |
|
(16.45 - 16.55) |
Trafod y llythyr drafft at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1. Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog
Tai a Llywodraeth Leol gan gytuno arno, yn ddarostyngedig i fân newidiadau. |