Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn

 

Inquiry5

 

Gwnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei waith ar yr ymchwiliad hwn mewn tri chyfnod yn ystod y Bumed Senedd.

 

Cyfnod un: y sector cyhoeddus

Canolbwyntiodd cyfnod un yr ymchwiliad ar ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn yn y sector cyhoeddus.

 

Dyma oedd y meysydd i’w hystyried:

  • Pa ofynion/mesurau diogelwch tân sydd ar waith mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru ar hyn o bryd
  • A oes unrhyw fylchau neu wendidau amlwg yn y system bresennol o reoleiddio diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru?
  • A yw’r canllawiau i drigolion tyrau o fflatiau yng Nghymru, mewn achos o dân, yn briodol?
  • Sut y caiff trigolion yng Nghymru wybod am ddatblygiadau diweddar, a sicrwydd, ynghylch mesurau diogelwch rhag tân yn eu bloc? Yn fwy cyffredinol, i ba raddau y mae clust i wrando ar farn trigolion am ddiogelwch tân ac i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio’i gwaith, a gellir eu gweld yn y tabl isod.

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.   Gwasanaethau Tân ac Achub

Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Steve Rossiter, Rheolwr Ardal / T, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Iwan Cray, Rheolwr Ardal, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

13 Gorffennaf  2017

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

2.   Cyrff proffesiynol

Matt Dicks, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Gareth John, Ymgynghorydd ar ei liwt ei hun, y Sefydliad Siartredig Adeiladu

 

13 Gorffennaf  2017

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

3.   Cyrff proffesiynol

Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru

David Wilton, Cyfarwyddwr, TPAS

13 Gorffennaf  2017

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

4.   Cynrychiolydd llywodraeth leol

Tony Jones, Cyngor Sir y Fflint, Rheolwr

îm Gwaith Cyfalaf, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Sarah McGill, Caerdydd, Prif Swyddog Corfforaethol dros Gymunedau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Colin Blackmore, Caerdydd, Rheolwr Gwella Ystadau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Martin Nicholls, Cyngor Abertawe, Cyfarwyddwr Lleoedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd

Clive Lloyd, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe

 

13 Gorffennaf  2017

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

5.   Cynrychiolwyr Tai

Stuart Ropke,

Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

Ceri Doyle, Prif Weithredwr, Cartrefi Dinas Casnewydd

Mike Owen, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymoedd Merthyr

Tim Beckingsale, Cyfarwyddwr Rheoli Asedau Dros Dro, Grŵp Pobl

Alan Brunt, Prif Weithredwr, Tai Cymunedol Bron Aron

13 Gorffennaf  2017

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

6. Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisïau Tai, Llywodraeth Cymru

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, Llywodraeth Cymru

27 Medi 2017

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

 

Cyfnod dau: sector breifat

Canolbwyntiodd cyfnod dau yr ymchwiliad ar ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn yn y sector preifat.

 

Dyma oedd y meysydd i’w hystyried:

  • Sut y mae'r sector preifat wedi ymateb i bryderon ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau preswyl?
  • Beth yw maint y gwaith adferol y mae angen ei wneud i fodloni safonau diogelwch tân yng Nghymru, a pha drefniadau sydd ar waith i dalu am y costau?
  • Sut y caiff lesddeiliaid/preswylwyr yng Nghymru wybod am ddatblygiadau diweddar, a pha sicrwydd a roddir iddynt ynghylch mesurau diogelwch rhag tân yn eu tyrau?  Yn fwy cyffredinol, i ba raddau y gwrandewir ac yr ymdrinir â barn preswylwyr am ddiogelwch tân.
  • Pa gymorth ariannol neu ymarferol ychwanegol, os o gwbl, sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU er mwyn helpu i sicrhau bod tyrau o fflatiau yn ddiogel.

 

Sesiynau tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor, a gellir eu gweld yn y tabl isod. Yn ogystal, ymgynghorodd y Pwyllgor ar y pwnc hwn. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad i’w gweld isod.

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.   Gwasanaethau Tân ac Achub

David Hancock, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnesau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Kevin Roberts, Uwch-reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Christian Hadfield, Rheolwr Grŵp Adran Gweithrediadau, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Owen Jayne, Rheolwr Grŵp, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

27 Medi 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

2.   Asiantau rheoli

Nigel Glen, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Asiantau Rheoli Preswl

Jason Clarke, Pennaeth Rheoli Risg, Warwick Estates

Rachel Dobson, Pennaeth Iechyd a Diogelwch, Mainstay Group Limited

Julie Griffiths, Rheolwr Eiddo ar gyfer eiddo a reolir yng Nghymru, Mainstay Group Limited

David Clark, Cadeirydd, Mainstay Group Limited

27 Medi 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

3.   Y Ffederasiwn Cymdeithasau Preswylwyr Preifat

Cassandra Zanelli, ymgynghorydd mygedol Ffederasiwn Cymdeithasau Preswylwyr Preifat

27 Medi 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

4.   Cynrychiolydd llywodraeth leol

Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Graham Bond, Rheolwr Rheoli Adeiladau Dros Dro, Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, Cyngor Caerdydd

Dave Holland, Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, a Bro Morgannwg

27 Medi 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

5.   Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Francois Samuel, Pennaeth Rheoliadau Adeiladu, Rheoliad Adeiladu, Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru

Andy Fry OBE, Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru, Y Gangen Gwasanaethau Tân, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Huw Maguire, Uwch Reolwr Polisi, Polisi Tai, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

11 Hydref 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

6.   Viridis Real Estate

Tom Jones, Uwch Reolwr Prosiect, Viridis Real Estate

25 Hydref 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

 

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn (sector preifat) ym mis Tachwedd 2018.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad ym mis Ionawr 2019. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Ionawr 2019.

 

Diweddariad

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad ar yr ymchwiliad i’r tân yn Nhŵr Grenfell, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu ddilynol gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ddydd Iau 5 Rhagfyr 2019.

 

Cyfnod 3: Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor drydydd cyfnod o waith yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru “Adeiladau mwy diogel yng Nghymru: ymgynghoriad” ar 12 Ionawr 2021. Trafododd y Pwyllgor hynt y gwaith o wella diogelwch tân a gwahoddodd randdeiliaid i roi barn ynghylch sut y gallai’r papur gwyn effeithio ar eu gwaith a diogelwch adeiladau, gan ganolbwyntio ar adeiladau preswyl uchel iawn yn y sector preifat. Cyflwynwyd canfyddiadau’r Pwyllgor yn nhrydydd cyfnod yr ymgynghoriad fel ymateb ffurfiol i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru.

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.   Gwasanaethau Tân ac Achub

Owen Jayne, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Siôn Slaymaker, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Bob Mason, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

25 Chwefror 2021

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

2.   Asiantau rheoli

Paul Edwards, Uwch Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC)

Peter Richards, Cadeirydd, Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) Cymru

Andrew Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Adeiladau, y Gweithgor Diogelwch Tân, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

25 Chwefror 2021

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

3.   Y Ffederasiwn Cymdeithasau Preswylwyr Preifat

Jason Clarke, Pennaeth Rheolaeth Risg, Warwick Estates

Nigel Glen, Prif Weithredwr, y Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl (ARMA)

Mark Snelling, Pennaeth, Cynghorydd Diogelwch a Thân, ARMA

25 Chwefror 2021

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

 

Fel rhan o’i waith ar gam 3, cynhaliodd y Pwyllgor grwpiau ffocws rhithwir gyda rhanddeiliaid. Mae crynodeb o drafodaethau’r grŵp ffocws ar gael.

 

Ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Gwnaeth y Pwyllgor gyflwyno a chyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru “Adeiladau mwy diogel yng Nghymru” ar 25 Mawrth 2021.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2017

Dogfennau