Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru
Inquiry5
Ym mis Rhagfyr 2017, cytunodd y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gynnal ymchwiliad byr
i gysgu ar y stryd yng Nghymru.
Cylch
gorchwyl:
Roedd y cylch
gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:
- effeithiolrwydd Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) o ran atal cysgu ar y
stryd;
- graddfa cysgu ar y stryd yng Nghymru a digonolrwydd y data;
- achosion cysgu ar y stryd a’r cynnydd ymddangosol diweddar yn nifer y
bobl sy’n cysgu ar y stryd;
- effeithiolrwydd ac argaeledd gwasanaethau, gan gynnwys llety brys; a’r
- camau i atal ac ymdrin â chysgu ar y stryd yng Nghymru.
Casglu tystiolaeth
Daeth 22 o gyflwyniadau
ysgrifenedig i law’r Pwyllgor a chynhaliodd chwe sesiwn tystiolaeth lafar gyda
rhanddeiliaid a'r Gweinidog Tai ac Adfywio. Gellir gweld yr ymatebion
ysgrifenedig a rhestr o'r dystiolaeth lafar a glywyd isod.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad:
Bywyd
ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru yn Ebrill 2018.
Wrth gyhoeddi'r adroddiad,
dywedodd John
Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Clywsom gan amrywiaeth o sefydliadau
sy’n cefnogi pobl sy’n cysgu ar y stryd a chan arbenigwyr sydd wedi cwblhau
gwaith ymchwil helaeth yn y maes pwnc hwn. Efallai yn bwysicach fyth, clywsom
gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o fyw ar y stryd ond sydd wedi cael
cefnogaeth i lety ers hynny. Clywsom hanesion. Clywsom hanesion cynhyrfus o
beth arweiniodd iddynt gysgu ar y stryd.”
Gosododd Llywodraeth Cymru ei
hymateb i’r adroddiad yn Mehefin 2018. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac
ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar
13 Mehefin 2018.
Gwaith
dilynol
Ar ôl cyhoeddi Cynllun
Gweithredu Cysgu Allan Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2018, cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn graffu
ddilynol gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Yn ei gyfarfod ar 5 Mehefin
2019, cytunodd y Pwyllgor i gynnal gwaith dilynol ychwanegol ar ei ymchwiliad i
gysgu ar y stryd yng Nghymru. O ganlyniad i hynny, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad
rhanddeiliaid yn dilyn sesiwn
graffu gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Ddydd Mercher 13 Tachwedd, yn
dilyn y materion a godwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
dystiolaeth i drafod y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n
cysgu ar y stryd sydd ag anhwylderau sy’n cyd-ddigwydd.
Yn dilyn y gwaith hwn,
cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad byr ar iechyd
meddwl a chamddefnyddio sylweddau ymysg pobl sy’n cysgu ar y stryd (PDF,
203KB) ddydd Iau 19 Rhagfyr.
Wrth gyhoeddi'r adroddiad,
dywedodd John
Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Nid oes unrhyw gwestiwn ein
bod yn wynebu argyfwng o ran cysgu ar y stryd ac ar hyn o bryd nid oes digon o
arian yn y system i sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i fynd i'r afael
â'r broblem. Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd bod llawer o broblemau strwythurol
ledled Cymru sy'n ein rhwystro rhag dileu cysgu ar y stryd. Ni ellir atal
digartrefedd drwy dai yn unig, mae rôl i'r holl wasanaethau cyhoeddus o ran
mynd i'r afael â'r broblem.”
Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb
(PDF, 255KB) i adroddiad y Pwyllgor “Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd:
Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau” ar 5
Chwefror 2020.
Cynhaliwyd dadl ar yr adroddiad
a’r ymateb iddo yn y Cyfarfod
Llawn ar 12 Chwefror 2020.
Yn ystod pandemig y
coronafeirws, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ar ddydd
Mawrth 14 Gorffennaf 2020 i drafod effaith y feirws ar ddigartrefedd a
chysgu ar y stryd.
Cadw mewn cysylltiad
Os hoffech wybod rhagor am
waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen
hafan, dilynwch ei gyfrif
Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@senedd.cymru
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2018
Dogfennau
- Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru
- Yr amserlen o ran tystiolaeth lafar
PDF 209 KB
- RS01 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 194 KB Gweld fel HTML (3) 33 KB
- RS02 - Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig)
PDF 4 MB
- RS03 - Wallich (Saesneg yn unig)
PDF 202 KB Gweld fel HTML (5) 92 KB
- RS04 - Huggard (Saesneg yn unig)
PDF 552 KB
- RS05 - Llamau (Saesneg yn unig)
PDF 169 KB Gweld fel HTML (7) 15 KB
- RS06 - Shelter Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 273 KB Gweld fel HTML (8) 26 KB
- RS07 - Crisis (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB
- RS08 - Heddlu De Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 54 KB Gweld fel HTML (10) 16 KB
- RS09 - Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru (Saesneg yn unig)
PDF 607 KB
- RS10 - Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 115 KB
- RS11 - Dr Peter Mackie (Saesneg yn unig)
PDF 784 KB
- RS12 - Cyngor Ffoaduriaid Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 888 KB
- RS13 - Cymorth Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 863 KB
- RS14 - The Big Issue Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 1018 KB
- RS15 - Byddin yr Iachawdwriaeth (Saesneg yn unig)
PDF 574 KB
- RS16 - Marie Curie (Saesneg yn unig)
PDF 720 KB
- RS17 -Y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) (Saesneg yn unig)
PDF 305 KB Gweld fel HTML (19) 58 KB
- RS18 - Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 293 KB Gweld fel HTML (20) 50 KB
- RS19 - Grŵp Pobl (Saesneg yn unig)
PDF 440 KB
- RS20 - Llywodraeth Cymru
PDF 444 KB
- RS21 - Heddlu Gogledd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 46 KB
- RS22a - Simon Inkson
PDF 80 KB
- Cynllun Gweithredu Cysgu Allan
- Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Sir Powys
- Gwybodaeth ychwanegol gan Heddlu De Cymru
- Gwybodaeth ychwanegol gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Gwybodaeth ychwanegol gan Heddlu Gogledd Cymru
PDF 672 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
PDF 1 MB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Dr Peter Mackie
- Gwybodaeth ychwanegol gan Shelter Cymru
- Gwybodaeth ychwanegol gan Fyddin yr Iachawdwriaeth (25 Ionawr 2018 )
- Gohebiaeth
- Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio at y Pwyllgor Deisebau (9 Ionawr 2018) (Saesneg yn unig)
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau (31 Ionawr 2018)
- Nodiadau o ymweliadau’r Pwyllgor mewn cysylltiad â chysgu ar y stryd yng Nghymru (1 Chwefror 2018)
- Llythyr oddi wrth Heddlu De Cymru at Mick Antoniw AC (23 Ionawr 2018) (Saesneg yn unig)
PDF 890 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (19 Chwefror 2018)
- Nodyn o ymweliad â’r Wallich (Saesneg yn unig)
- Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad (13 Mehefin 2018)
- Llythyr at y Gweinidog Tai ac Adfywio (21 Mehefin 2018)
PDF 97 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio (18 Gorffennaf 2018)
- Llythyr dilynol i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (23 Ebrill 2019)
PDF 96 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (22 Mai 2019)
PDF 267 KB
- Llythyr gan Llamau (10 Hydref 2019) (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB
- Llythyr at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (4 Tachwedd 2019)
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (29 Tachwedd 2019)
PDF 261 KB
- Llythyr gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd (13 Ionawr 2020) (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (13 Hydref 2020)
PDF 109 KB
- Llythyr at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (22 Ionawr 2021)
PDF 205 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (17 Chwefror 2021)
PDF 388 KB