Ymchwiliad i broses gwyno'r GIG

Ymchwiliad i broses gwyno'r GIG

Bu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried proses gwyno’r GIG mewn sesiwn dystiolaeth lafar ar 16 Gorffennaf 2014. Nod y gwaith oedd ceisio llywio gwaith y Gweinidog yn y dyfodol ar y broses gwyno yn GIG Cymru, gan gynnwys sut y dylid datblygu argymhellion yr adroddiad ar Adolygiad o Ymdrin â Phryderon (Cwynion) yn GIG Cymru.

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad hwn oedd ystyried effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion yn GIG Cymru, a'r hyn y gellir ei ddysgu o adolygiadau diweddar o ymdrin â chwynion yng Nghymru a Lloegr.

 

Llythyr y Pwyllgor

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 214KB) ym mis Awst 2014. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 152KB), a chyhoeddodd ddatganiad ysgrifenedig, ym mis Tachwedd 2014.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 245KB) eto ym mis Rhagfyr 2014. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 77KB) ym mis Ionawr 2015.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/06/2014

Dogfennau