Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC. Roedd David Melding AC yn
dirprwyo ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jack Sargeant AC a Bethan
Sayed AC. |
||
(09.00 - 10.00) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 8 Gareth Williams,
Rheolwr Asiantaeth Llety (Iechyd yr Amgylchedd, Llety Dros Dro, Gosodiadau
Cymdeithasol a Datblygu Sector Preifat), Cyngor Sir Caerfyrddin Jim McKirdle,
Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru · Gareth Williams, Rheolwr Asiantaeth Llety
(Iechyd yr Amgylchedd, Llety Dros Dro, Gosodiadau Cymdeithasol a Datblygu
Sector Preifat), Cyngor Sir Gâr |
|
(10.00 - 11.30) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 9 ·
Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ·
Emma
Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru ·
Helen
Kellaway, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru ·
Huw
Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Rebecca
Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio · Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr
Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru · Helen Kellaway, Cyfreithiwr, Llywodraeth
Cymru ·
Huw Charles,
Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru 3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog Tai ac
Adfywio i ddarparu'r canlynol: ·
trosolwg
o'r hyn a gaiff ei gynnwys yn y canllawiau i denantiaid a landlordiaid cyn i'r
Bil ddod i rym. Ymrwymwyd i ddarparu'r trosolwg hwn cyn dechrau'r gwaith o
graffu ar y Bil yng Nghyfnod 2. · nodyn i egluro pam y mae angen y
darpariaethau a geir yn y Bil ar hyn o bryd o ran yr hawl i rentu. · rhagor o wybodaeth am sut y bydd y Ddeddf yn
cael ei gwerthuso unwaith y daw i rym. ·
eglurhad ynghylch
pam nad yw'r Bil yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gynorthwyo deiliaid contract
i adennill taliadau gwaharddedig. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â hawliau pleidleisio i garcharorion Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1a
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â hawliau
pleidleisio i garcharorion |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2a
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch
diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru |
||
Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3a
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng
Nghymru |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4a
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas
â chysgu ar y stryd yng Nghymru |
||
Llythyr ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5a
Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 |
||
Llythyr ar y cyd gan randdeiliaid mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.6a
Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan randdeiliaid mewn perthynas â'r Bil
Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.7a
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas
â’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) |
||
Llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â digwyddiadau’r rhaglen Senedd@ Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.8a
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â digwyddiadau’r
rhaglen Senedd@ |
||
Cyflwyniad ysgrifenedig i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â thlodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.9a
Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd
Unedig mewn perthynas â thlodi |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.10a
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.30 - 12.30) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): trafod y materion allweddol Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol. |
|
(12.30 - 12.35) |
Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru – trafod ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad Cofnodion: 7.1 Nododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |