Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru. Dilynodd hyn ymchwiliad byr Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad i Ddyfodol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac hefyd cafodd ei lywio gan ymgynghoriad y Pwyllgor ar flaenoriaethau a gynhaliwyd yn ystod haf 2016.

 

Cylch gorchwyl:

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • yr effaith ar y modd yr amddiffynnir hawliau dynol yng Nghymru wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd,
  • effaith cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyflwyno Deddf Hawliau Prydeinig i gymryd ei le, a
  • chanfyddiadau'r cyhoedd ynglŷn â hawliau dynol yng Nghymru, yn arbennig pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru.

 

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth y ceir manylion amdanynt yn y tabl isod. Ymgynghorodd y Pwyllgor ar y pwnc hefyd; mae’r ymatebion wedi’u cyhoeddi.

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.   Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Melanie Field, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru a Strategaeth a Pholisi Corfforaethol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

June Milligan, Comisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chadeirydd Pwyllgor Cymru

6 Ebrill 2017

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

2.   Academyddion

Dr Simon Hoffman, Darlithydd Cysylltiol, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Thomas Glyn Watkin, Cyn Bennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor a Chwnsel Deddfwriaethol Cyntaf Cymru 2007-2010

6 Ebrill 2017

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.TV

 

Yn dilyn y sesiynau tystiolaeth, cytunodd y Pwyllgor i gyfyngu ar gwmpas yr ymchwiliad i ganolbwyntio ar effaith Brexit ar hawliau dynol.

 

O ganlyniad i hyn, gwnaeth y Pwyllgor waith ar y cyd â’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ddeall effaith Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Yn dilyn y gwaith hwn, cyhoeddodd y Pwyllgorau eu canfyddiadau ar y cyd (PDF, 1MB).

 

Parhaodd y Pwyllgor i fonitro cynnydd Brexit i sicrhau y cydymffurfir â’n hegwyddorion mewn perthynas â hawliau dynol. Mae egwyddorion craidd y Pwyllgor ar gael yn ein gohebiaeth isod, dyddiedig 12 Rhagfyr 2017.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/12/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau