Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/06/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.

1.3 Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar dderbyn CBE i gydnabod ei wasanaethau i Archwilio ac Atebolrwydd Cyhoeddus yng Nghymru, yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar.

 

 

(14.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 2.1 O ran yr ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, cytunodd y Cadeirydd i gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru ynghylch yr adolygiad thematig maent yn ei gynnal y disgwylir i adroddiad gael ei gyflwyno arno ym mis Mawrth 2019. Yn dilyn gwybodaeth a chyngor gan Archwilydd Cyffredinol, cytunwyd cynnal sesiwn dystiolaeth arall fel rhan o ymchwiliad Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru cyn diwedd tymor yr haf.

 

2.1

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (21 Mai 2018)

Dogfennau ategol:

2.2

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (31 Mai 2018)

Dogfennau ategol:

2.3

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Gohebiaeth y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

(14.05 - 14.15)

3.

Rheoli meddyginiaethau: Trafod ymatebion i argymhellion yr adroddiad

PAC(5)-16-18 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru (2 Mai 2018)

PAC(5)-16-18 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru (31 Mai 2018)

PAC(5)-16-18 Papur 3 – Llythyr oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion a chytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o'r ymatebion i argymhellion y Pwyllgor.

 

(14.15 - 14.20)

4.

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Gohebiaeth

PAC(5)-16-18 Papur 4 – Llythyr oddi wrth Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru

PAC(5)-16-18 Papur 5 – Llythyr oddi wrth Gomisiwn Dylunio Cymru

PAC(5)-16-18 Papur 6 – Llythyr oddi wrth Wasanaethau Addysg Gatholig

PAC(5)-16-18 Papur 7 – Llythyr oddi wrth Rhieni dros Addysg Gymraeg

PAC(5)-16-18 Papur 8 – Llythyr oddi wrth NASUWT Cymru

PAC(5)-16-18 Papur 9 – Llythyr oddi wrth Cenric Clement-Evans

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(14.20 - 15:20)

5.

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-16-18 Papur 10 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth -  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau – Cyngor Bro Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Cyngor Bro Morgannwg fel rhan o'r ymchwiliad i Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.

5.2 Cytunodd Dr Llewelyn i anfon rhagor o wybodaeth yn amlinellu buddion/manteision awdurdodau lleol sy'n defnyddio'r model buddsoddi ar y cyd yn lle eu pwerau benthyca eu hunain.

 

 

 

 

(15.30 - 16.30)

6.

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Sesiwn dystiolaeth 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Iestyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol, Colegau Cymru

Judith Evans, Pennaeth, Coleg y Cymoedd

Guy Lacey, Pennaeth, Coleg Gwent

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Iestyn Davies, Prif Weithredwr, Colegau Cymru, Judith Evans, Pennaeth, Coleg y Cymoedd, a Guy Lacey, Pennaeth, Coleg Gwent, fel rhan o'r ymchwiliad i Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.

 

(16.30)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 8 & 9

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 16.45)

8.

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.45 - 17.00)

9.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

9.1 Nododd yr Aelodau y bydd papur pellach ar gael iddynt i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 25 Mehefin.