Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW)
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i Gronfa
Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW) ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru
gyhoeddi ei adroddiad ar benderfyniad RIFW i werthu tir ac asedau eiddo o oedd
o dan berchnogaeth gyhoeddus (15 Gorffennaf 2015).
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad
ei ymchwiliad i RIFW (PDF 734KB) yn Ionawr 2016. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF 176KB) ar 8 Mawrth 2016 a dilynwyd hynny gan drafodaeth
yn y cyfarfod
llawn ar 16 Mawrth 2016.
Argymhellodd y Pwyllgor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth fod
ei Bwyllgor olynol yn myfyrio ar ganfyddiadau’r ymchwiliad ac yn monitro
gweithrediad yr argymhellion gan Lywodraeth Cymru.
Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor ym mis
Tachwedd 2020, gan nodi eu bod wedi cytuno ar setliad ynghylch yr achos
cyfreithiol mewn perthynas â Chronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/06/2018
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Llywodraeth Cymru - 9 Rhagfyr 2020
PDF 174 KB
- Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru - 12 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)
PDF 524 KB
- Diweddariad gan Lywodraeth Cymru - 27 Chwefror 2020
PDF 394 KB
- Diweddariad gan Lywodraeth Cymru - 29 Tachwedd 2018
PDF 258 KB
- Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru - 21 Mai 2018
PDF 246 KB