Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar Y
Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif (PDF 1MB) ar 25 Mai
2017.
Roedd yr Adroddiad yn trafod gwaith rheoli Llywodraeth
Cymru o’i rhaglen Ysgolion ac Addysg o’r 21ain Ganrif. Cafodd y rhaglen
fuddsoddi, a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei chyhoeddi yn
2009 a’i nod yw moderneiddio’r ystâd addysg a gwella cyflwr ac addasrwydd
adeiladau ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod nifer o nodau addysgol a
chymunedol ar gyfer y buddsoddiad. Caiff y rhaglen ei chyd-ariannu gyda
Llywodraeth Cymru yn darparu grant ar gyfer 50% o gostau’r prosiect.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n benodol ar gam cyntaf y
rhaglen o fis Ebrill 2014 i fis Mawrth 2019. Fodd bynnag, mae hefyd yn ystyried
cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol ym Mand B y rhaglen o
2019-2024.
Ystyriodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad a chynhaliodd ymchwiliad yn ystod tymor yr
haf 2018. Yn dilyn yr ymchwiliad, ysgrifennodd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru
ym mis Gorffennaf 2018 ac ystyriwyd yr ymateb yn nhymor yr hydref 2018.
Ysgrifennodd y Cadeirydd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mai
2019 yn gofyn iddynt barhau i gadw golwg ar y rhaglen, ac at y Pwyllgor Cyllid
ynghylch y Model Cyd-fuddsoddi.
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Cofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
Ymweliad i
ysgolion lleol |
|
|
|
1. WLGA Dr Chris
Llewelyn |
|||
2. Iestyn Davies –
Colegau Cymru |
|||
3. Llywodraeth Cymru |
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/05/2017
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Cadeirydd, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - 14 Mai 2019
PDF 119 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Cadeirydd, Y Pwyllgor Cyllid- 14 Mai 2019
PDF 122 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 28 Chwefror 2019
PDF 552 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - Awst 2018
PDF 338 KB
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru - Gorffennaf 2018
PDF 370 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan CLlLC - Gorffennaf 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 194 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru - Gorffennaf 2018
PDF 282 KB
- Ymateb Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru - Mai 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 130 KB Gweld fel HTML (8) 27 KB
- Ymateb Comisiwn Dylunio Cymru - Mai 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 394 KB
- Ymateb Gwasanaeth Addysg Gatholig - Mai 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 149 KB
- Ymateb Rhieni dros Addysg Gymraeg - Mai 2018
PDF 1 MB
- Ymateb NASUWT - Mai 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 304 KB Gweld fel HTML (12) 44 KB
- Llythyr oddi wrth Cenric Clement-Evans - Mai 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 239 KB Gweld fel HTML (13) 27 KB
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor at Randdeiliaid - 20 Ebrill 2018
PDF 181 KB
- Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru - 1 Rhagfyr 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 225 KB Gweld fel HTML (15) 70 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 691 KB
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor - Mai 2017
PDF 68 KB Gweld fel HTML (17) 14 KB
- Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Mai 2017
PDF 1 MB