Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor

 

(09.15 - 09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2a

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Ei Wneud yn Wahanol, Ei Wneud yn Iawn? Llywodraethu yn y GIG yn ystod argyfwng COVID-19 – Themâu, gwersi a chyfleoedd allweddol

PAC(5)-05-21 PTN1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Ei Wneud yn Wahanol, Ei Wneud yn Iawn?  Llywodraethu yn y GIG yn ystod argyfwng COVID-19 – Themâu, gwersi a chyfleoedd allweddol

2b

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Ionawr 2021)

Dogfennau ategol:

2c

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Chwefror 2021)

Dogfennau ategol:

2d

Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Chwefror 2021)

Dogfennau ategol:

(09.30 - 10.30)

3.

Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Llywodraeth Cymru - yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-05-21 Papur 1 - Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

Sioned Evans - Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gydag Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol - Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol ynghylch ei fyfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.

4.3 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth ynghylch nifer o faterion.

 

(10.40 - 11.40)

4.

Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Llywodraeth Cymru – Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Steve Davies - Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gyda Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol – y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch ei myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon rhagor o wybodaeth am nifer o faterion.

 

 

(11.40 - 12.00)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Trafod yr Ymateb gan Gomisiwn y Senedd

PAC(5)-05-21 Papur 2 - Ystyried yr Ymateb gan Gomisiwn y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r Craffu ar Gyfrifon 2019-20 a’i nodi.

5.2 Cytunwyd bod yr Adroddiad Gwaddol yn cynnwys argymhelliad i'r Pwyllgor olynol barhau i drafod Dangosyddion Perfformiad Allweddol gyda Chomisiwn y Senedd yn ystod ei waith craffu blynyddol ar y cyfrifon.

 

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 7 cyfarfod heddiw a’r cyfarfod ar 22 Chwefror 2021

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.30)

7.

Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth a gafwyd a'r hyn yr oeddent am ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Gwaddol.