Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 21/09/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |
---|---|---|---|
(09.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki
Howells AS. |
||
(09.45 - 10.05) |
Papur(au) i’w nodi: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar reoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol
ac ar y Gwasanaeth Gofal Sylfaenol y Tu Allan i Oriau. |
||
Rheoli meddyginiaethau: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (28 Awst 2020) Dogfennau ategol: |
|||
Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (28 Awst 2020) Dogfennau ategol: |
|||
Gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno cenedlaethol Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (28 Awst 2020) Dogfennau ategol: |
|||
Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (28 Awst 2020) Dogfennau ategol: |
|||
(10.05 - 11.15) |
Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Comisiwn y Senedd Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd PAC(5)-18-10
Papur 1- Comisiwn y Senedd: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 PAC(5)-18-10
Papur 2 - Comisiwn y Senedd: Amrywiaeth a chynhwysiant: Adroddiad
Blynyddol 2019-20 PAC(5)-18-10 Papur
3 - Comisiwn y Senedd: Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol Adroddiad
Blynyddol 2019-20 PAC(5)-18-10
Papur 4 - Comisiwn y Senedd: Cynaliadwyedd: Adroddiad
Blynyddol 2019-20 PAC(5)-18-20
Papur 5 – Llythyr
oddi wrth Gomisiwn y Senedd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – Goblygiadau
ariannol pandemig COVID-19, 7 Gorffennaf 2020 PAC(5)-18-20
Papur 6 - Gohebiaeth â Chomisiwn y Senedd Manon Antoniazzi – Prif Weithredwr a Chlerc y
Senedd Nia Morgan – Cyfarwyddwr Cyllid
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Holodd yr Aelodau'r tystion fel rhan o waith craffu’r
Pwyllgor ar y Cyfrifon. 3.2 Cytunodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y
Senedd, i ddarparu rhywfaint o eglurder / gwybodaeth ychwanegol am nifer o
bwyntiau a godwyd. |
||
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 5, 6, 7,
8 a 9 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(11.25 - 11.40) |
Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
||
(11.40 - 11.50) |
Blaenraglen waith PAC(5)-18-20
Papur 7 – Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. |
||
(11.50 - 12.00) |
Cysgu ar y Stryd yng Nghymru - Problem Pawb; Cyfrifoldeb Neb: Adroddiad Archwilio Cymru Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd PAC(5)-18-20
Papur 8 – Adroddiad
Archwilio Cymru: Cysgu Allan yng Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i
neb (Gorffennaf 2020) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunwyd y dylai'r Cadeirydd
ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn
iddynt ystyried yr agweddau polisi ac y bydd yr adolygiad o'r Partneriaethau
Strategol yn cael ei ystyried fel rhan o'r ymchwiliad sydd ar ddod i Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. |
||
(12.00- 12.10) |
Atal Twyll yng Nghymru: Adroddiad Archwilio Cymru Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd PAC(5)-18-20
Papur 9 – Adroddiad
Archwilio Cymru: ‘Gwella ein Perfformiad’ - Mynd i’r Afael â Thwyll yng
Nghymru (Gorffennaf 2020) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i holi
Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn y tymor, fel rhan o'r gwaith craffu ar ei
Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20. |
||
(12:10 - 12:20) |
Rhaglen Tynnu Asbestos yn Ysbyty Glan Clwyd: Adroddiad Archwilio Cymru Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd PAC(5)-18-20
Papur 10 – Adroddiad
Archwilio Cymru: Rhaglen cael gwared ar asbestos yn Ysbyty Glan Clwyd (Medi
2020) Dogfennau ategol:
Cofnodion: |