Cysgu Allan yng Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb
Cysgu Allan yng Nghymru - Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad
hwn ym mis Gorffennaf 2020, sy’n edrych ar sut y gall cyrff cyhoeddus helpu i
roi diwedd ar gysgu allan yng Nghymru.
Mae’r gwaith hwn
yn rhan o ail gam yr adolygiad gan Archwilio Cymru o weithio mewn partneriaeth,
ac mae’n dilyn ei adroddiad
yn bwrw golwg ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019.
Yn nhri mis
cyntaf y pandemig COVID-19, fe gynorthwyodd Llywodraeth Cymru gynghorau i
ailgartrefu dros 800 o bobl a oedd yn cysgu allan neu mewn perygl o
ddigartrefedd. Un o ganlyniadau annisgwyl y cyfnod clo yw bod nifer y bobl sy’n
cysgu allan wedi lleihau’n sylweddol.
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau wedi blaenoriaethu digartrefedd a chysgu allan yn ystod y
Senedd hon, gan gymryd tystiolaeth a llunio adroddiadau manwl ag argymhellion i
fynd i’r afael a’r materion cysylltiedig. Bydd y Pwyllgor yn parhau i ddwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif ar y mater pwysig hwn dros y misoedd nesaf, a bydd
yr adroddiad hwn yn helpu i lywio gwaith craffu.
Nodwyd yr
adroddiad gan y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Medi 2020.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/08/2020