Rhaglen cael gwared ar Asbestos o Ysbyty Glan Clwyd

Rhaglen cael gwared ar Asbestos o Ysbyty Glan Clwyd

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad hwn ym mis Medi 2020.

 

Cafodd Ysbyty Glan Clwyd ei ddylunio a’i adeiladu yn y 1970au, ac er yr ymwybyddiaeth gynyddol bryd hynny o’r risgiau o ran iechyd sy’n gysylltiedig ag asbestos, yn ogystal â’r rheoliadau cysylltiedig a gyflwynwyd, roedd asbestos yn parhau i gael ei ddefnyddio’n helaeth mewn adeiladau fel arafwr tân. Cafodd fframwaith dur yr ysbyty ei orchuddio ag asbestos wedi’i chwistrellu.

 

Yn 2012, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru brosiect gan y bwrdd iechyd i gael gwared ar yr asbestos ac adnewyddu’r ysbyty. Cafodd pecyn cyllid o £110.4 miliwn dros wyth blwyddyn ariannol ei gytuno ar gyfer y prosiect. Cwblhawyd y prosiect yn 2019, gan gadw’n weddol agos at yr amserlen, ond am gost o £170.8 miliwn, sef bron i 55 y cant yn fwy na’r gyllideb a gytunwyd yn wreiddiol.

 

Mae llawer o’r adroddiad yn trafod materion hanesyddol, ac mae Llywodraeth Cymru a’r bwrdd iechyd eisoes wedi cymryd camau i gryfhau eu dulliau o reoli a chymeradwyo prosiectau cyfalaf. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i drafod beth aeth o’i le gyda’r prosiect hwn, yn ogystal â’r camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i atal yr un peth rhag digwydd eto. O ganlyniad i’r argyfwng iechyd cyhoedus, ceisiodd y Pwyllgor safbwyntiau’r Bwrdd Iechyd drwy ohebiaeth ysgrifenedig.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/08/2020

Dogfennau