Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau

Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau

Inquiry5

Gwnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddi ei adroddiad ar “Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau” ym mis Gorffennaf 2018.

Mae gwasanaethau y tu allan i oriau yn darparu gofal sylfaenol brys pan fydd meddygfeydd ar gau. Maent yn rhan o gyfundrefn gofal brys ehangach sy’n cynnwys Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Galw Iechyd a’r gwasanaeth 111 sydd ar ddod.

Dengys yr adroddiad fod gwasanaethau y tu allan i oriau o dan gryn straen. Ymddengys fod cleifion, ar y cyfan, yn fodlon a’r gwasanaethau a ddarperir iddynt, ond mae lefelau isel o forâl ymhlith y staff ac anawsterau wrth lenwi sifftiau yn bygwth cadernid gwasanaethau yn sawl rhan o Gymru, ac mae angen ymateb mwy cynaliadwy i’r heriau hyn.

Canfu’r adroddiad nad oedd safonau cenedlaethol ar brydlondeb yn cael eu bodloni a bod angen gwella’r wybodaeth a ddarperir i gleifion ynghylch sut i gael mynediad at wasanaethau. Mae diffyg gwybodaeth hefyd am ansawdd a pherfformiad gwasanaethau, ac mae hynny’n amharu ar drefniadau i’w rheoli’n effeithiol ar raddfa leol a chenedlaethol.

Fel arfer, bydd gwasanaethau y tu allan i oriau yn cael eu cynllunio ar wahân i wasanaethau eraill, er eu bod yn rhan o gyfundrefn gofal brys ehangach.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad yn ystod tymor y gwanwyn 2019 a bu'r Aelodau hefyd yn ymweld â chyfleusterau y tu allan i oriau fel rhan o'r ymchwiliad hwn. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2019.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad cynhwysfawr ym mis Awst 2020 yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor (yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019) a’r argymhellion a wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol yn ei adroddiad, Y Tu Allan i Oriau, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018. Daeth diweddariad arall i law ym mis Chwefror 2021.

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

Ymweliad i wasanaethau y tu allan i oriau

21 Ionawr 2019

28 Ionawr 2019

3 Mawrth 2019

 

 

1. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Joe Teape
Richard Archer

Dydd Llun 18 Mawrth 2019

Darllen trawsgrifiad Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Steve Curry
Lisa Dunsford
Dr Sherard Lemaitre

Dydd Llun 18 Mawrth 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall
Simon Dean
Judith Paget - Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cadeirydd Bwrdd Gofal Sylfaenol Gwladol ac Arweinydd Strategol Gwasanaeth y Tu Allan i Oria

Dydd Llun 29 Ebrill 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2018

Dogfennau