Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 11/06/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam
Price AC. Ni chafwyd dirprwyon. 1.3 Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Huw Vaughan Thomas,
Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar dderbyn CBE i gydnabod ei wasanaethau i
Archwilio ac Atebolrwydd Cyhoeddus yng Nghymru, yn Rhestr Anrhydeddau
Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar. |
|
(14.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.1 O ran yr ymchwiliad i blant a
phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, cytunodd y Cadeirydd i gysylltu ag
Arolygiaeth Gofal Cymru ynghylch yr adolygiad thematig maent yn ei gynnal y
disgwylir i adroddiad gael ei gyflwyno arno ym mis Mawrth 2019. Yn dilyn
gwybodaeth a chyngor gan Archwilydd Cyffredinol, cytunwyd cynnal sesiwn
dystiolaeth arall fel rhan o ymchwiliad Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru cyn
diwedd tymor yr haf. |
|
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (21 Mai 2018) Dogfennau ategol: |
||
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (31 Mai 2018) Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Gohebiaeth y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 14.15) |
Rheoli meddyginiaethau: Trafod ymatebion i argymhellion yr adroddiad PAC(5)-16-18 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru (2
Mai 2018) PAC(5)-16-18 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru (31
Mai 2018) PAC(5)-16-18 Papur 3 – Llythyr oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion a chytunwyd y bydd y Cadeirydd yn
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o'r ymatebion i
argymhellion y Pwyllgor. |
|
(14.15 - 14.20) |
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Gohebiaeth PAC(5)-16-18 Papur 4 – Llythyr oddi wrth Gymdeithas
Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru PAC(5)-16-18 Papur 5 – Llythyr oddi wrth Gomisiwn Dylunio
Cymru PAC(5)-16-18 Papur 6 – Llythyr oddi wrth Wasanaethau
Addysg Gatholig PAC(5)-16-18 Papur 7 – Llythyr oddi wrth Rhieni dros
Addysg Gymraeg PAC(5)-16-18 Papur 8 – Llythyr oddi wrth NASUWT Cymru PAC(5)-16-18 Papur 9 – Llythyr oddi wrth Cenric
Clement-Evans Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
|
(14.20 - 15:20) |
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Sesiwn dystiolaeth 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-16-18 Papur 10 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr a
Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau – Cyngor Bro
Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif
Weithredwr a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru a Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Cyngor Bro
Morgannwg fel rhan o'r ymchwiliad i Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif. 5.2 Cytunodd Dr Llewelyn i anfon rhagor o wybodaeth yn amlinellu
buddion/manteision awdurdodau lleol sy'n defnyddio'r model buddsoddi ar y cyd
yn lle eu pwerau benthyca eu hunain. |
|
(15.30 - 16.30) |
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Sesiwn dystiolaeth 2 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Iestyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol, Colegau Cymru Judith Evans, Pennaeth, Coleg y Cymoedd Guy Lacey, Pennaeth, Coleg Gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Iestyn Davies, Prif Weithredwr,
Colegau Cymru, Judith Evans, Pennaeth, Coleg y Cymoedd, a Guy Lacey, Pennaeth,
Coleg Gwent, fel rhan o'r ymchwiliad i Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 8 & 9 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.30 - 16.45) |
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.45 - 17.00) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y materion allweddol Cofnodion: 9.1 Nododd yr Aelodau y bydd papur pellach ar gael iddynt i'w drafod yng
nghyfarfod y Pwyllgor ar 25 Mehefin. |