Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 26/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.15 - 14.45) |
Rheoli meddyginiaethau: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-06-18 Papur 1 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Yn sgil cyfyngiadau amser,
cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y mater hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor
wythnos nesaf. |
|
(15.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. |
|
(15.00 - 15.10) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. 3.2 O ran y papurau a gafodd eu nodi, cytunwyd ar y camau penodol a ganlyn: · Cynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr adolygiad o'r
gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru rhwng Caerdydd ac Ynys Môn; · Ysgrifennu at
Gyfarwyddwr yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn gofyn am ragor o
eglurder ynghylch y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru â gwasanaeth digidol
Llywodraeth y DU; · Ysgrifennu at
Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau ynghylch elfennau codio'r rhaglen Hwb. |
|
Y Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 Ionawr 2018) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (2 Chwefror 2018) Dogfennau ategol: |
||
Sesiwn gychwynnol: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (31 Ionawr 2018) Dogfennau ategol: |
||
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Chwefror 2018) Dogfennau ategol: |
||
Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
(15.10 - 16.30) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Sesiwn dystiolaeth 6 Briff Ymchwil PAC(5)-06-18 Papur 2 – Ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i'r
ymgynghoriad Y Cynghorydd Huw David - Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr) Y Cynghorydd Geraint Hopkins, Dirprwy Llefarydd CLlLC dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol (ac Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda
Cynon Taf) Stewart Blythe, Swyddog Polisi CLlLC (Iechyd a Gofal Cymdeithasol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Fel rhan o'u hymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn
gofal, clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Cynghorydd Huw David, Llefarydd
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (ac
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr); y Cynghorydd Geraint
Hopkins, Dirprwy Lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol (ac Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda
Cynon Taf); a Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 4.2 Cytunodd y tystion i anfon gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â nifer
o bwyntiau i gynorthwyo'r Pwyllgor gyda'i ymchwiliad. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Diwygiwyd y cynnig i gynnwys Eitem 1 o'r cyfarfod a gynhelir ar 5
Mawrth 2018, a chytunwyd arno. |
|
(16.30 - 17.00) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |