Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru
Cyhoeddodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru adroddiad ar
Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru (PDF 1MB) ym mis Awst 2017.
Buddsoddodd Llywodraeth
Cymru £124.5 miliwn yn ei Rhaglen Cefnogi Pobl (y Rhaglen) yn 2016-17, i
gefnogi pobl agored i niwed mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau i fyw mor
annibynnol â phosib. Mae'r Rhaglen yn darparu cyllid grant i awdurdodau lleol i
ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn uniongyrchol, neu
drwy ddarparwyr trydydd parti, i amrywiaeth o bobl; o'r rheini ag anableddau
dysgu neu anableddau corfforol ac anhwylderau datblygu i ddioddefwyr cam-drin
domestig, pobl â salwch cronig, materion iechyd meddwl neu gamddefnyddio
sylweddau, hanes troseddol a phobl â statws ffoaduriaid.
Yn ôl adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru, er gwaethaf rhai gwelliannau, nid yw'r camau a
gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog gyda'i ddyluniad a'i gyflwyno
wedi bod yn effeithiol bob amser, mae'r cynnydd wedi bod yn araf mewn meysydd
allweddol ac mae anghysonderau o ran rheolaeth y Rhaglen yn lleol ac yn
rhanbarthol.
Fodd bynnag, canfu'r
adroddiad nad yw amcanion cyfredol yn cydnabod yn benodol rôl y Rhaglen o ran
atal digartrefedd a mynd i'r afael â thlodi. Mae'r adroddiad hefyd yn
adlewyrchu pryderon ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfleu
goblygiadau newid polisi ar y Rhaglen, gan gynnwys deddfwriaeth ar wasanaethau
cymdeithasol, cenedlaethau'r dyfodol a thai, a pholisi Llywodraeth y DU ar
ddiwygio lles. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n ddiweddar ar amcanion
diwygiedig fel rhan o newidiadau ehangach i ganllawiau'r Rhaglen, ond mae wedi
cymryd mwy o amser na'r disgwyl i ddatblygu'r trefniadau newydd hyn, yn rhannol
oherwydd cyfyngiadau o ran adnoddau.
Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad a chynhaliodd
ymchwiliad yn ystod tymor yr hydref 2017- gwanwyn 2018. Yn dilyn cyhoeddi ei
adroddiad ym mis Mai 2018, bu’r Pwyllgor yn monitro gweithredu Llywodraeth
Cymru ar argymhellion yr adroddiad.
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Cofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Stuart Ropke –Tai
Cymunedol Cymru Enid Roberts
–Cartrefi Cymunedol Gwynedd Katie Dalton –Cymorth
Cymru Rhian Stone –Grŵp POBL a Chyfarwyddwr Cymorth Cymru |
|||
2. Naomi Alleyne –Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Elke Winton – Cyngor
Bwrdeistref Sirol Torfaen Nigel Stannard
–Cyngor Dinas Casnewydd |
|||
3. Sam Lewis – Pwyllgor
Cydweithredol Rhanbarthol Gwent Angela Lee – Pwyllgor
Cydweithredol Rhanbarthol Gwent |
|||
4. Y Cynghorydd Mark
Child - Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol Rachel Evans -
Awdurdod Cydgysylltu Dinas a Sir Abertawe |
|||
5. Llywodraeth Cymru Tracey Burke Jo-Anne Daniels John Howells Emma Williams |
|||
6. Llywodraeth Cymru Tracey Burke Jo-Anne Daniels John Howells |
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2017
Dogfennau
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 15 Ionawr 2019
PDF 768 KB
- Llythyr gan Gadeirydd dros dro y Pwyllgor at Llywodraeth Cymru - 13 Rhagfyr 2018
PDF 189 KB
- Gohebiaeth gan Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru - 21 Tachwedd 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 508 KB
- Gohebiaeth gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru - 21 Tachwedd 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 245 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 24 Awst 2018
PDF 276 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor - 30 Gorffennaf 2018
PDF 256 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru - 3 Gorffennaf 2018
PDF 174 KB Gweld fel HTML (7) 44 KB
- Adroddiad y Pwyllgor - Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru (Mai 2018)
PDF 661 KB
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor - 18 Mai 2018
PDF 212 KB Gweld fel HTML (9) 11 KB
- Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru - 8 Chwefror 2018
PDF 264 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Y Gweinidog Tai ac Adfywio - 24 Tachwedd 2017
PDF 152 KB
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor - 15 Tachwedd 2017
PDF 81 KB Gweld fel HTML (12) 17 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 725 KB
- Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Awst 2017
PDF 1 MB
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor - Awst 2017
PDF 1 MB
Ymgynghoriadau
- Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru (Wedi ei gyflawni)