Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn

Trafododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad femorandwm yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Awyr Oddi Mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn, a chynhaliodd ymchwiliad (PDF 438KB)byr i weld a yw’r gwasanaeth yn darparu gwerth am arian (Gorffennaf 2014). Cyhoeddodd y Pwyllgor hwnnw adroddiad terfynol (PDF 524KB) ar y mater ym mis Gorffennaf 2015.

Yn ei adroddiad etifeddiaeth, gwnaeth y Pwyllgor blaenorol argymhelliad y dylai ei Bwyllgor olynol geisio’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn hydref 2016 am y gwasanaeth awyr, gan gynnwys tueddiadau ar gyfer niferoedd y teithwyr, effaith cau Maes Awyr Môn dros dro, fel y disgwylir yn 2016, ynghyd â’r cyfleoedd posibl ar gyfer ehangu gweithgareddau yn y maes awyr a chanlyniad sicrhau partner newydd ar gyfer y tymor hir.

Bu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2016, ac ar ôl gweld yr adolygiad o’r cwmni hedfan rhwng y Gogledd a’r De gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ym mis Chwefror 2018, cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru yn ystod tymor yr haf 2018.

Cytunodd Llywodraeth Cymru y bydd manylion y contractwr llwyddiannus yn cael eu darparu ar ôl i'r ymarfer tendro gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn nhymor yr hydref 2018.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau