Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag Eitem 2.1.

 

10.00-10.10

2.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(5)630 – Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-30-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

2.2

SL(5)632 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 5 – Rheoliadau

CLA(5)-30-20 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-27-20 – Papur 7 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, 9 Hydref 2020

CLA(5)-25-20 – Papur 8 – Datganiad ysgrifenedig, 8 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

2.3

SL(5)631 – Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 9 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 10 – Gorchymyn

CLA(5)-30-20 – Papur 11 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

2.4

SL(5)633 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 12 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 13 – Rheoliadau

CLA(5)-30-20 – Papur 14 – Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-30-20 – Papur 15 – Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog, 9 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

2.5

SL(5)634 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 16 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 17 – Rheoliadau

CLA(5)-30-20 – Papur 18 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-30-20Papur 19 – Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog, 9 Hydref 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 20 – Datganiad ysgrifenedig, 9 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

10.10-10.15

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

3.1

SL(5)625 – Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 21 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 22 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a bod y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau wedi'i ddiwygio.

 

3.2

SL(5)627 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 23 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 24 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

3.3

SL(5)623 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 51 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 52 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach mewn perthynas â’r pwyntiau adrodd gwreiddiol.

 

10.15-10.20

4.

Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

4.1

SICM(5)30 - Rheoliadau Gofal Iechyd Cilyddol a Thrawsffiniol (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 25 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-30-20 – Papur 26 – Rheoliadau

CLA(5)-30-20 – Papur 27 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-30-20 – Papur 28 – Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 2 Hydref 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 29 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-30-20 – Papur 30 – Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau cysylltiedig. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi pryder na fyddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynnig i gynnal dadl ynghylch y Memorandwm.

 

10.20-10.25

5.

Adroddiad Rheol Sefydlog 30B: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin

CLA(5)-30-20 – Papur 31 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-30-20 – Papur 32 – Adroddiad

CLA(5)-30-20 – Papur 33 - Dadansoddiad o Fframweithiau 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r adroddiad.

 

10.25-10.30

6.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

6.1

WS-30C(5)170 – Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygiadau etc.) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 34 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-30-20 – Papur 35 – Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau.

 

6.15

WS-30C(5)171 – Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Cyrff Cynhyrchwyr a Gwin) (Diwygio etc) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 36 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-30-20 – Papur 37 – Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau cysylltiedig, yn benodol bod anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch a oes angen cydsyniad.

 

6.3

WS-30C(5)172 – Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 38 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-30-20 – Papur 39 – Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau.

 

10.30-10.35

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Bil Marchnad Fewnol y DU

CLA(5)-30-20 – Papur 40 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 12 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

7.2

Llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol: Achosion o dorri’r rheol 21 diwrnod a materion eraill yn ymwneud â deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â COVID-19

CLA(5)-30-20 – Papur 41 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 12 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol.

 

7.3

Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig

CLA(5)-30-20 – Papur 42 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, 15 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

 

10.35

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10.35-10.50

9.

Bil Marchnad Fewnol y DU: Papur briffio gan Lywodraeth Cymru

CLA(5)-30-20 – Papur 43 – Papur briffio gan Lywodraeth Cymru

CLA(5)-30-20 – Papur 44 – Datganiad ysgrifenedig, 15 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Bil Marchnad Fewnol y DU. At hynny, nododd y Pwyllgor y byddai'n clywed tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd 2020, a bod aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cyllid wedi eu gwahodd i ymuno â'r cyfarfod.

 

10.50-10.55

10.

Diweddariad Brexit – fframweithiau cyffredin

CLA(5)-30-20 – Papur 45 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil mewn perthynas â fframweithiau cyffredin.

 

10.55-11.05

11.

Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-30-20 – Papur 46 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020, a chytunwyd arno yn ddarostyngedig i fân ddiwygiadau.

 

11.05-11.15

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-30-20 – Papur 47 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y terfyn amser, sef 22 Hydref 2020.

 

11.15-11.25

13.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2): Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-30-20 – Papur 48 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 

11.25-11.30

14.

Rheoliadau COVID-19: Trafod yr ohebiaeth a ddaeth i law

CLA(5)-30-20 – Papur 49 – Llythyr gan y Llywydd, 8 Hydref 2020

CLA(5)-30-20 – Papur 50 – Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y prif faterion mewn perthynas â chraffu ar reoliadau COVID-19 a sut yr oedd am ymateb i'r llythyr oddi wrth y Llywydd dyddiedig 8 Hydref 2020.