Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol

Cyflwynwyd Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 13 Chwefror 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 8 Gorffennaf 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn Dydd Iau 22 Hydref 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 22 Hydref 2020.

 

Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Ionawr 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

Ar 2 Rhagfyr 2020, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 109KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn Dydd Llun 11 Ionawr 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 18 Rhagfyr 2020.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/07/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau