Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Sian Giddins

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 444KB) Gweld fel HTML (153KB)

(14.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.30 - 15.30)

2.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Aelod sy’n gyfrifol am y Bil

Emma Cordingley, Llywodraeth Cymru

Sarah Tully, Llywodraeth Cymru

 

CLA(5)-01-17 – Dogfen briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil a’r Gwasanaeth Cyfreithiol

 

Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 303KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1MB)

Datganiad ar fwriad polisi’r Bil (PDF, 144KB)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

 

(15.30 - 15.35)

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-01-17 – Papur 1 - Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

3.1

SL(5)042 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017

3.2

SL(5)044 – Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017

Cofnodion:

3.0a Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

 

(15.35 - 15.40)

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(5)045 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

CLA(5)-01-17 - Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-01-17 - Papur 3 - Gorchymyn

CLA(5)-01-17 - Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru.

4.1b Nododd yr ohebiaeth gan Gymdeithas yr Iaith a gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynghylch y safonau iaith.

4.1c Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.

 

4.2

SL(5)046 – Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2016

CLA(5)-01-17 - Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-01-17 - Papur 6 - Gorchymyn

CLA(5)-01-17 - Papur 7 – Memorandwm Esboniadol [Saesneg yn unig]

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, gan gytuno y dylid cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.

 

(15.40 - 15.45)

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Bil Cymru: Ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ar Fil Cymru

CLA(5)-01-17 - Papur 8 - Gohebiaeth gan Lywodraeth y DU at Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, 12 Rhagfyr 2016 [Saesneg yn unig]

CLA(5)-01-17 – Papur 9 - Ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ar Fil Cymru [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth y DU.

 

5.2

Bil Cymru: Gohebiaeth gan Lywodraeth y DU ynghylch cymal 60 o Fil Cymru

CLA(5)-01-17 - Papur 10 - Gohebiaeth gan Lywodraeth y DU at y Llywydd ynghylch cymal 60 o Fil Cymru, 13 Rhagfyr 2016 [Saesneg yn unig]

CLA(5)-01-17 - Papur 11 - Gohebiaeth gan Lywodraeth y DU at y Prif Weinidog ynghylch cymal 60 o Fil Cymru, 13 Rhagfyr 2016 [Saesneg yn unig]

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch y mater.

 

5.3

Bil Cymru: Fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru

CLA(5)-01-17 – Papur 12 - Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y Fframwaith Cyllidol i Gymru, 19 Rhagfyr 2016

CLA(5)-01-17 – Papur 13 - Y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru, 20 Rhagfyr 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3a Nododd y Pwyllgor y datganiad.

 

5.4

Galwad am dystiolaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi: Dirprwyo pwerau

CLA(5)-01-17 - Papur 14 - Galwad am dystiolaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ar ei ymchwiliad i'r broses ddeddfwriaethol: dirprwyo pwerau [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4a Nododd y Pwyllgor yr alwad am dystiolaeth.

 

(15.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.45 - 16.00)

7.

Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Trafod y Dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.