Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) i ofyn am ragor o fanylion am y polisi presennol ar gyfer darparu gwasanaethau prosthetig, gan ofyn:

·         pam mae'n ymddangos bod gwahaniaeth yn cael ei wneud rhwng breichiau a choesau;

·         faint o geisiadau a gafwyd ar gyfer coesau prosthetig hamdden o dan y broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), ac amcan o'r gyfran a gymeradwyir;

·         am fanylion am y gost ychwanegol gyfartalog sy'n gysylltiedig â darparu coes brosthetig hamdden i blentyn neu berson ifanc; ac

·         i ba raddau y mae technoleg argraffu 3D yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, neu y gellid ei defnyddio yn y dyfodol, i gynhyrchu aelodau prosthetig.

 

 

 

2.2

P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru - Bil Diogelu a Hyrwyddo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd mewn ymateb i'r llythyr gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

 

 

2.3

P-05-820 Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 Mae'r deisebydd yn gweithio iddo.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn:

  • am gadarnhad pellach na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gynnig a fyddai'n cymryd â gorsaf Castell-nedd oddi ar brif linell de Cymru;
  • am gadarnhad y byddent yn gweithredu yn erbyn cynnig o'r fath pe bai'n codi; ac
  • am fanylion ynghylch unrhyw drafodaethau a gafwd ar y mater hwn â Llywodraeth y DU neu Network Rail. 

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Openreach a chan Arweinydd y Tŷ a chytunodd i aros am gyhoeddiad ynghylch y cynllun a fydd yn olynu Cyflymu Cymru, gan ofyn am fanylion bryd hynny ynghylch a all Llangenni ddisgwyl cael cysylltiad band eang cyflym iawn drwy'r rhaglen honno .

 

 

3.2

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad diweddar y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn am benderfyniad y Gweinidog Tai ac Adfywio, gan egluro'r un pryd bod y Pwyllgor o'r farn nad oes llawer yn rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud yng ngoleuni'r ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r mater gan Lywodraeth Cymru.

 

 

3.3

P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl i'w swyddogion gwblhau eu hadolygiad o'r pwnc hwn.

 

 

3.4

P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl i'w swyddogion gwblhau eu hadolygiad o'r pwnc hwn.

 

 

3.5

P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet, a barn y deisebydd, cyn ystyried a oes angen unrhyw gamau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

 

 

3.6

P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach y deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar sail:

 

    • y wybodaeth a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'i ddull gweithredu presennol o ran rheoleiddio;
    • y camau a gymerwyd i gryfhau opsiynau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru; a'r
    • newidiadau i'r Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol sydd yn yr arfaeth.

 

 

3.7

P-05-777 Cymhwyso’r ddeddfwriaeth systemau llethu tân awtomatig o fewn y rheoliadau adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y Pwyllgor bellach wedi cael cadarnhad nad oes gan y Cynulliad na Llywodraeth Cymru ddim bwriad adolygu'r gofynion rheoleiddiol yn y maes hwn ar hyn o bryd.

 

 

3.8

P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn a oes ffordd o drefnu cyfarfod rhwng y deisebydd a'r Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog.

 

3.9

P-05-782 Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb am nad yw'n bosibl ei dwyn ymlaen na blaenoriaethu ei thrafod ymhellach yn niffyg cysylltiad â'r deisebydd.

 

 

4.

Papur i’w nodi

4.1

P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 6 a 8 ar yr agenda heddiw:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

6.

Adroddiad drafft - P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a'r bwriad i'w gyhoeddi cyn toriad yr haf, gyda'r bwriad o gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.

 

 

(10.15 - 10.45)

7.

Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Huw Irranca-Davies, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

 

Gareth Griffiths, Pennaeth Talu am Ofal, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol a chan Gareth Griffiths.

 

8.

Trafodaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunodd i ofyn am dystiolaeth ychwanegol gan ystod o randdeiliaid mewn perthynas â phwnc y ddeiseb.