Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-862 - Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

·         ddarparu'r sylwadau pellach a gafwyd gan y deisebydd;

·         gofyn iddi ddarparu asesiad o ddigonolrwydd dyletswyddau cyfreithiol cyfredol mewn perthynas ag atal a mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion; a

·         gofyn am linell amser ar gyfer pryd y bydd adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau gwrth-fwlio ar gael.

 

 

2.2

P-05-863 Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         aros am farn y deisebwyr ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb; ac

  • ystyried gofyn i'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip gyfarfod â'r deisebydd i drafod y materion a godwyd yn y ddeiseb yn nes ymlaen.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y deisebydd i'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog cyn ystyried camau pellach.

 

3.2

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan.

 

3.3

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan.

 

 

3.4

P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chytunodd i roi cyfle i’r bobl sydd wedi cysylltu â'r Pwyllgor ynglŷn â’r mater hwn yn flaenorol roi eu barn, ac i ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ofyn am eu barn ar y cynlluniau a amlinellwyd gan y Bwrdd Iechyd a dyfodol gwasanaethau iechyd i Sir Benfro.

 

3.5

P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ddiweddariad pellach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas ag adolygiad o fuddiannau'r cynllun a’r fframwaith taliadau disgresiwn cyn ystyried y ddeiseb ymhellach, ac i ysgrifennu eto yn ystod y Pasg os na dderbynnir hwn.

 

3.6

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a chytunodd i ystyried y ddeiseb eto yn dilyn dadl y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 6 Mawrth 2019.

 

3.7

P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn:

·         a yw hi o'r farn bod y gwahaniaeth rhwng trwyddedu a'r gyfundrefn reoleiddiol yng Nghymru a Lloegr yn peri risg i les anifeiliaid yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â'r fasnach anifeiliaid anwes egsotig; ac

·         a yw'n bwriadu ystyried rhinweddau mabwysiadu rhai neu bob un o'r gwahanol newidiadau polisi a wnaed yn Lloegr gan y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr) 2018.

 

3.8

P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i:

·         ofyn am farn y grŵp ymgyrchu ar y datblygiadau diweddaraf cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ddarparu amserlenni dangosol ar gyfer cynnal yr ailasesiad.

 

 

 

 

3.9

P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail mai ychydig o gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd, yn wyneb y ffaith bod y Cynulliad wedi cytuno ar Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 ar 15 Ionawr 2019 a bod y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau pwnc eraill wedi craffu arni.

 

3.10

P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil datblygiadau diweddar sy'n dangos nad yw'r cynnig i adeiladu carchar newydd ym Maglan yn mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5

Item 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafod yr adroddiadau drafft

5.1

Adroddiad drafft - P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad interim o'r dystiolaeth a gafwyd cyn gynted â phosibl ac i wahodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl.

 

5.2

Adroddiad drafft - P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r adroddiad drafft.

 

6.

Sesiwn dystiolaeth - P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Cyng John Prosser (SOSPPAN)

Cyng Louvain Roberts (SOSPPAN)

Cyng Deryk Cundy (SOSPPAN)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Deryk Cundy, John Prosser a Louvain Roberts o SOSPPAN.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Item 8

8.

Trafod y Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ofyn am ymateb i rai o'r materion a godwyd.