Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru
(WHSSC) i ofyn am ragor o fanylion am y polisi presennol ar gyfer darparu
gwasanaethau prosthetig, gan ofyn: ·
pam mae'n
ymddangos bod gwahaniaeth yn cael ei wneud rhwng breichiau a choesau; ·
faint o
geisiadau a gafwyd ar gyfer coesau prosthetig hamdden o dan y broses Ceisiadau
Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), ac amcan o'r gyfran a gymeradwyir; ·
am
fanylion am y gost ychwanegol gyfartalog sy'n gysylltiedig â darparu coes
brosthetig hamdden i blentyn neu berson ifanc; ac ·
i ba
raddau y mae technoleg argraffu 3D yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, neu y
gellid ei defnyddio yn y dyfodol, i gynhyrchu aelodau prosthetig. |
||
P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru - Bil Diogelu a Hyrwyddo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan
y deisebydd mewn ymateb i'r llythyr gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a
Chwaraeon cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb. |
||
P-05-820 Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'r deisebydd yn gweithio iddo. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro
cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth yn gofyn:
|
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Openreach a chan Arweinydd y Tŷ a chytunodd i
aros am gyhoeddiad ynghylch y cynllun a fydd yn olynu Cyflymu Cymru, gan ofyn
am fanylion bryd hynny ynghylch a all Llangenni ddisgwyl cael cysylltiad band
eang cyflym iawn drwy'r rhaglen honno . |
||
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ddatganiad diweddar y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i
ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn am benderfyniad y Gweinidog Tai
ac Adfywio, gan egluro'r un pryd bod y Pwyllgor o'r farn nad oes llawer yn
rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud yng ngoleuni'r ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r
mater gan Lywodraeth Cymru. |
||
P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer
Gwasanaethau Crefyddol a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl i'w swyddogion gwblhau eu hadolygiad
o'r pwnc hwn. |
||
P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb hon ar y cyd â P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar
ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol a chytunodd i aros am y
wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl i'w
swyddogion gwblhau eu hadolygiad o'r pwnc hwn. |
||
P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i
aros am ddiweddariad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet, a barn y deisebydd,
cyn ystyried a oes angen unrhyw gamau pellach ynglŷn â'r ddeiseb. |
||
P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a
Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach y deisebydd, a chytunodd i gau'r
ddeiseb ar sail:
|
||
P-05-777 Cymhwyso’r ddeddfwriaeth systemau llethu tân awtomatig o fewn y rheoliadau adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol
a Chymunedau a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y Pwyllgor
bellach wedi cael cadarnhad nad oes gan y Cynulliad na Llywodraeth Cymru ddim
bwriad adolygu'r gofynion rheoleiddiol yn y maes hwn ar hyn o bryd. |
||
P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn a
oes ffordd o drefnu cyfarfod rhwng y deisebydd a'r Grŵp Arbenigol y
Lluoedd Arfog. |
||
P-05-782 Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48 Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb am nad
yw'n bosibl ei dwyn ymlaen na blaenoriaethu ei thrafod ymhellach yn niffyg
cysylltiad â'r deisebydd. |
||
Papur i’w nodi |
||
P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 6 a 8 ar yr agenda heddiw: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cynnig. |
||
Adroddiad drafft - P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a'r bwriad i'w gyhoeddi cyn toriad yr haf,
gyda'r bwriad o gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref. |
||
(10.15 - 10.45) |
Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Huw Irranca-Davies, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a
Gofal Cymdeithasol Gareth Griffiths, Pennaeth Talu am Ofal, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
a chan Gareth Griffiths. |
|
Trafodaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Cofnodion: Trafododd
yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunodd i ofyn am dystiolaeth ychwanegol
gan ystod o randdeiliaid mewn perthynas â phwnc y ddeiseb. |